Ers dechrau’r pandemig, mae pob un ohonon ni wedi gorfod newid y ffordd rydyn ni’n gweithio. Mae pobl wedi addasu i gydweithredu’n rhithwir yn lle wyneb yn wyneb, ac er bod llawer o bethau cadarnhaol i weithio ar-lein, mae blinder rhithwir yn broblem real iawn i lawer ohonon ni.
Mae gofod3 wastad wedi bod yn ofod i'r sector ddod at ei gilydd ac i ddefnyddio'r amser mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw. Er y byddwn ni’n cynnal y digwyddiad ar-lein eleni, mae'r diben yr un fath, ac felly rydyn ni am sicrhau bod pawb sy'n bresennol yn cael y gorau o'r digwyddiad wythnos o hyd, heb gael eu llethu.
Dyma gyngor i chi ar sut i wneud y gorau o’ch profiad heb ddioddef gorlwytho rhithwir!
1. Dewiswch yn ddoeth
Pan fyddwch chi’n edrych ar amserlen y digwyddiadau, gofynnwch i'ch hunan pa bynciau sydd bwysicaf i chi. Ceisiwch gofrestru ar gyfer y digwyddiadau, y gweithdai a'r dosbarthiadau meistr a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar eich anghenion a'ch diddordebau yn unig.
2. Byddwch yn drefnus
Ar ôl i chi ddewis eich sesiynau, gallwch ddefnyddio ein cynlluniwr digwyddiadau a’i addasu. Yn syml, llenwch y sesiynau rydych chi'n bwriadu mynd iddyn nhw, gan greu eich amserlen bersonol eich hunan. Drwy wneud hynny, bydd modd i chi gadw golwg ar ble mae angen i chi fod heb orfod chwilio am negeseuon cadarnhau yn eich mewnflwch!
3. Byddwch yn y foment
Wrth symud i weithio’n ddigidol, mae nifer y negeseuon e-bost ac hysbysiadau wedi cynyddu, ac mae'n hawdd i bethau dynnu'ch sylw! Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o'ch amser yn gofod3, diffoddwch eich hysbysiadau a rhowch eich neges ‘allan o’r swyddfa’ ymlaen os gallwch chi. Mae'n rhy hawdd ceisio gwneud mwy nag un peth wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau ar-lein, ond wrth gwrs mae hynny’n ei gwneud hi'n anoddach cofio’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu â chi. Bydd cau ffenestri eraill a diffodd eich hysbysiadau yn ei gwneud hi'n llawer haws i chi gymryd rhan yn y sesiynau o'ch dewis.
4. Stopiwch i fyfyrio
Rydyn ni wedi cynnwys egwyl ginio yn yr amserlen i annog pobl i gymryd hoe o'r sgrin. Felly, ceisiwch osgoi darllen eich negeseuon yn ystod yr egwyl yma, ac ewch i ystafell arall. Os gallwch fynd allan am awyr iach, gorau oll! Bydd yr amser yma yn eich helpu i brosesu gwybodaeth a chlirio'ch meddwl yn barod ar gyfer unrhyw sesiynau rydych chi wedi cofrestru ar eu cyfer yn y prynhawn.
5. Gwnewch amser i gysylltu â phobl
Os oes modd, rhowch eich neges ‘allan o’r swyddfa’ ymlaen ac yna gwnewch y gorau o’r wythnos drwy drefnu sgwrs gyda phobl eraill yn y sector nad ydych chi wedi siarad â nhw ers amser. Trefnwch i gwrdd am baned neu i fynd am dro gyda rhywun arall o’r gynhadledd os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny, neu trefnwch sgwrs dros y ffôn a cherdded ar yr un pryd os na allwch chi gwrdd â nhw wyneb yn wyneb.