Gofod3
Gofod3

CADWCH Y DYDDIAD

Bydd gofod3 yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr arbennig iawn sy’n dathlu 40 blynedd5 Mehefin 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Fel yn y blynyddoedd cynt, bydd y digwyddiad hwn am ddim i fynychu, ond rhaid cadw lle ymlaen llaw.

Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur, a gallwch chi ymuno â’n rhestr bostio gofod3 i gael y diweddaraf ar y rhaglen o ddigwyddiadau a bod y cyntaf i wybod pan fydd modd cadw lle ar y sesiynau.

ARCHEBU GOFOD AR GYFER DIGWYDDIAD AC ARDDANGOSFA

Oes gennych chi rywbeth i’w rannu gyda mudiadau gwirfoddol yng Nghymru? Beth am wneud cais i gynnal digwyddiad neu gael stondin arddangos yn gofod3.

Mae’r ceisiadau ar gyfer bwcio gofod ar gyfer digwyddiad ac arddangosfa ar agor nawr tan 22 Mawrth 2024.

Bwcio gofod i gynnal digwyddiad

Bwcio gofod ar gyfer arddangosfa

YNGLŶN Â GOFOD3

Digwyddiad a drefnir gan CGGC yw gofod3, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru

Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n benodol i bobl sy’n gysylltiedig â mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Cafodd gofod3 ei sefydlu’n gyntaf yn ystod gwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd, blynyddol yng Nghaerdydd

Ar ôl gorfod canslo’r digwyddiad yn 2020 oherwydd y pandemig, gwnaethon ni gynnal gofod3 fel gŵyl wythnos o hyd ar-lein yn 2021 a 2022 ac rydyn ni wedi bod yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau bach gofod3 yn ystod hydref a gaeaf 2023/2024.

gofod3 yw lle mae'r sector gwirfoddol yn dod at ei gilydd

Nod gofod3 o’r cychwyn cyntaf oedd dod â’r sector gwirfoddol ynghyd i ddysgu o’i gilydd ac ysgogi ei gilydd, felly rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn dychwelyd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn 2024.

WYTHNOS GWIRFODDOLWYR 2024

Eleni, mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn 40 mlwydd oed! Bydd gofod3 yn cael ei gynnal ar 5 Mehefin 2024, yn agos at ddechrau’r Wythnos Gwirfoddolwyr, a bydd y rhaglen yn adlewyrchu hyn gyda digonedd o ddathlu gwirfoddoli yng Nghymru a thrafod arferion da.

Mwy am gofod3

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh