Mae gofod3 yn rhad ac am ddim i gynrychiolwyr fynychu a gallai eich cymorth fel partner noddi chwarae rhan hanfodol mewn helpu i sicrhau bod gofod3 yn digwydd.
Pam ddylwn i noddi gofod3?
- Mae gofod3 yn cynnig cyfle unigryw i ddangos eich mudiad, rhannu eich cynhyrchion a gwasanaethau, cael mewnwelediad i dueddiadau o fewn y sector a rhwydweithio â phenderfynwyr allweddol.
- Byddwch hefyd yn rhoi cymorth gwerthfawr i bobl sy’n gweithio ar draws y sector, gan wneud gwahaniaeth mawr i gymunedau yng Nghymru.
- Rydyn ni’n gwybod bod pobl sy’n dod i gofod3 yn gwerthfawrogi’r cyfle i rwydweithio’n fawr ac yn creu cysylltiadau ystyrlon sy’n helpu i ddatblygu eu gwaith.
- Yn aml, mae pobl yn gweld gofod3 fel eu cyfle datblygu allweddol am y flwyddyn ac yn mynd iddo am ei fod am ddim i fynychu ac yn ymdrin ag amrediad eang o bynciau.
- Byddai eich cymorth i wireddu hyn yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi a byddai’n gyfle unigryw i’ch brand gael ei gysylltu â digwyddiad sefydledig sy’n cefnogi pobl sy’n gwneud pethau gwych yng Nghymru.
Cyfleoedd noddi
Gweler isod fanylion llawn y pecynnau noddi sydd ar gael ac mae croeso i chi siarad â ni am gyfleoedd noddi sy'n gweithio i chi:
Gofod ar gyfer digwyddiadau yn gofod3
Mae cynnal digwyddiad yn gofod3 yn ffordd gost-effeithiol o gyrraedd cynulleidfa amrywiol.
Gofod arddangos yn gofod3
Curiad calon gofod3 fydd y farchnad ryngweithiol, y mae cannoedd o weithwyr proffesiynol o’r sector gwirfoddol yn ymweld ag ef.