Mae cynnal digwyddiad yn gofod3 yn ffordd gost-effeithiol o gyrraedd cynulleidfa amrywiol. Waeth a ydych chi eisiau trefnu trafodaeth banel, gweithdy, grŵp ffocws, prif anerchiad neu lansio ymgyrch, dyma’r lle i chi.
Rydyn ni eisiau sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar gofod3 a bod y digwyddiad nid yn unig yn bodloni eich disgwyliadau, ond yn mynd y tu hwnt iddynt.
Rydyn ni’n chwilio am ddigwyddiadau a fydd yn annog ffyrdd gwahanol o weithio, yn ennyn trafodaeth ac yn ysgogi newid, felly yn hytrach na dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin, rydyn ni’n chwilio am ddigwyddiadau a fydd yn cyfrannu at wneud gofod3 y gorau y gall fod i ymwelwyr.
Codir tâl yr awr ar ofod ar gyfer digwyddiad, ond rydyn ni’n hyblyg o ran hyd digwyddiadau. Os oes angen slot hirach arnoch neu os hoffech ychwanegu opsiynau arlwyo, cysylltwch â ni ar 0300 111 0124 neu helo@gofod3.cymru i drafod cyn cyflwyno eich ffurflen gais.
Os hoffech wneud cais am ofod ar gyfer digwyddiad yn gofod3, llenwch gais ar-lein erbyn 22 Mawrth 2024. (Noder: ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried).
Byddwn ni’n gadael i chi wybod canlyniad eich cais erbyn 15 Ebrill 2024.
Bydd pawb sydd yn bwcio gofod ar gyfer digwyddiad yn cael:
- eu cynnwys yn yr arweinlyfr digwyddiadau i hysbysebu digwyddiad eich mudiad
- enw eich mudiad a dolen gyswllt ar wefan gofod3 a chyhoeddusrwydd cyffredinol ar gyfer eich digwyddiad
- simultaneous translation (Welsh/English) if required
- pecyn AV llawn, gan gynnwys gliniadur, taflunydd, sgrin a siart droi
- cymorth i osod ystafell y digwyddiad, cymorth gyda chofrestru a gyda rheoli’r rhestr gyfranogwyr ar y dydd
Cysylltwch â’r tîm digwyddiadau gydag unrhyw gwestiynau: helo@gofod3.cymru
Ffioedd (cyn awr)
Aelodau CGGC (mae’r pris yn cynnwys 10% o ostyngiad)
- Mawr iawn (Ar ffurf theatr, capasiti o 100) - £342 +TAW
- Mawr (Ar ffurf cabare, capasiti o 50) - £297 + TAW
- Canolig (Ar ffurf cabare, capasiti o 25) - £252 + TAW
- Bach (Ar ffurf pedol, capasiti o 10) - £207 + TAW
Sector gwirfoddol
- Mawr iawn (Ar ffurf theatr, capasiti o 100) - £380 + TAW
- Mawr (Ar ffurf cabare, capasiti o 50) - £330+ TAW
- Canolig (Ar ffurf cabare, capasiti o 25) - £280 + TAW
- Bach (Ar ffurf pedol, capasiti o 10) - £230 + TAW
Sector cyhoeddus
- Mawr iawn (Ar ffurf theatr, capasiti o 100) - £485 + TAW
- Mawr (Ar ffurf cabare, capasiti o 50) - £435 + TAW
- Canolig (Ar ffurf cabare, capasiti o 25) - £380 + TAW
- Bach (Ar ffurf pedol, capasiti o 10) - £330 + TAW
Sector breifat
- Mawr iawn (Ar ffurf theatr, capasiti o 100) - £635 + TAW
- Mawr (Ar ffurf cabare, capasiti o 50) - £535 + TAW
- Canolig (Ar ffurf cabare, capasiti o 25) - £460 + TAW
- Bach (Ar ffurf pedol, capasiti o 10) - £430 + TAW
Cyfleoedd noddi
Mae hwn yn gyfle prin i chi gael eich brand wedi’i weld gan arweinwyr yn y sector gwirfoddol.
I gael gwybod yr holl gyfleoedd noddi a hysbysebu, cysylltwch â Wendy Gilbert drwy anfon e-bost at helo@gofod3.cymru neu 0300 111 0124.