Curiad calon gofod3 fydd y farchnad ryngweithiol, y mae cannoedd o weithwyr proffesiynol o’r sector gwirfoddol yn ymweld ag ef. Bydd ein hymwelwyr i gyd yn awyddus i ddysgu mwy am eich gwasanaeth, eich cynnyrch neu eich ymgyrch.
Rydyn ni eisiau sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar gofod3 a bod y digwyddiad nid yn unig yn bodloni eich disgwyliadau, ond yn mynd y tu hwnt iddynt.
Rydyn ni’n chwilio am arddangosfeydd arloesol a fydd yn annog ffyrdd gwahanol o weithio, yn ennyn trafodaeth ac yn ysgogi newid, felly yn lle dyrannu lleoedd ar sail y gyntaf i’r felin, rydyn ni’n chwilio am arddangoswyr a fydd yn cyfrannu at wneud gofod3 mor dda â phosibl i ymwelwyr.
Os hoffech wneud cais am ofod arddangos ar gyfer gofod3, llenwch y ffurflen gais ar-lein a’i dychwelyd atom erbyn 22 Mawrth 2024. (Noder: ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried).
Byddwn ni’n gadael i chi wybod canlyniad eich cais erbyn 8 Ebrill 2024.
Bydd pob arddangoswr yn cael:
- ei gynnwys yn yr arweinlyfr digwyddiadau i hysbysebu eich mudiad
- enw eich mudiad a dolen gyswllt ar wefan gofod3
- te a choffi Masnach Deg drwy’r dydd
Bydd gan bob stondin y canlynol:
- cynllun cragen
- arwydd gyda’ch enw arno
- un bwrdd
- dwy gadair
- trydan (un soced)
Ffioedd gofod arddangos
Aelodau CGGC
2m x 2m £250 + TAW
3m x 2m £290 + TAW
Sector gwirfoddol
2m x 2m £290 + TAW
3m x 2m £330 + TAW
Sector cyhoeddus
2m x 2m £390 + TAW
3m x 2m £430 + TAW
Sector breifat
3m x 2m £695 + TAW
Cysylltwch â’r tîm digwyddiadau gydag unrhyw gwestiynau: helo@gofod3.cymru
Cyfleoedd noddi
Mae hwn yn gyfle prin i chi gael eich brand wedi’i weld gan arweinwyr yn y sector gwirfoddol.
I gael gwybod yr holl gyfleoedd noddi a hysbysebu, cysylltwch â Wendy Gilbert drwy anfon e-bost at helo@gofod3.cymru neu 0300 111 0124.