gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
gofod3 yw eich gofod unigryw chi.
Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, dyma’ch gofod chi i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
YNGLŶN Â GOFOD3
Digwyddiad a drefnir gan CGGC yw gofod3, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru
Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n benodol i bobl sy’n gysylltiedig â mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Cafodd gofod3 ei sefydlu’n gyntaf yn ystod gwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd, blynyddol yng Nghaerdydd
Ar ôl gorfod canslo’r digwyddiad yn 2020 oherwydd y pandemig, gwnaethon ni gynnal gofod3 fel gŵyl wythnos o hyd ar-lein yn 2021 a 2022 ac rydyn ni wedi bod yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau bach gofod3 yn ystod hydref a gaeaf 2023/2024.
gofod3 yw lle mae'r sector gwirfoddol yn dod at ei gilydd
Nod gofod3 o’r cychwyn cyntaf oedd dod â’r sector gwirfoddol ynghyd i ddysgu o’i gilydd ac ysgogi ei gilydd, felly rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn dychwelyd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn 2024.
WYTHNOS GWIRFODDOLWYR 2024
Eleni, mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn 40 mlwydd oed! Bydd gofod3 yn cael ei gynnal ar 5 Mehefin 2024, yn agos at ddechrau’r Wythnos Gwirfoddolwyr, a bydd y rhaglen yn adlewyrchu hyn gyda digonedd o ddathlu gwirfoddoli yng Nghymru a thrafod arferion da.