Gofod3
Gofod3

Cadwch y dyddiad – mae gofod3 yn ôl yn 2024!

Bydd gofod3, y gofod i’r sector gwirfoddol yng Nghymru, yn dychwelyd fel digwyddiad wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019 ac rydyn ni’n methu aros i’ch gweld chi yno.

Bydd gofod3, y gofod i’r sector gwirfoddol yng Nghymru, yn dychwelyd fel digwyddiad wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019 ac rydyn ni’n methu aros i’ch gweld chi yno.

5 Mehefin 2024, Stadiwm Dinas Caerdydd

Rydyn ni’n dod â gofod3 yn ôl fel digwyddiad wyneb yn wyneb eleni am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.

Gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai. Gallwn ni eich sicrhau chi y bydd rhywbeth at ddant pawb.

Ac wrth gwrs, bydd dychwelyd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn rhoi cyfleoedd di-ri i chi rwydweithio â’ch cymheiriaid o bob rhan o’r sector gwirfoddol, yn ogystal â sgwrsio â chydweithwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ein marchnad brysur.

Dysgwch fwy

Mwy am gofod3

Cydweithio i gael cyllid

Cydweithio i gael cyllid: yr hyn a ddysgwyd gennym

Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024, 10-11.15am

Mae’n bwysicach nag erioed bod y trydydd sector yn cydweithio i gyflawni eu nodau a chael yr effaith fwyaf posibl. Mae cael cyllid i sicrhau bod ganddyn nhw’r adnoddau gofynnol yn her barhaus. Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn gofod3 hon lle byddwn ni’n clywed gan unigolion sydd wedi cael profiad uniongyrchol o ddatblygu comisiynu cysylltiedig a’r rheini yn y sector sydd wedi gallu gweithio mewn partneriaeth i gael cyllid. Byddant yn gallu rhannu’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu a dangos sut gall cydweithrediadau da eich rhoi chi mewn sefyllfa well i gael cyllid! Bydd y sesiwn yn cael ei hwyluso gan Darren Jones, Uwch-reolwr, Partneriaethau o’r Brifysgol Agored yng Nghymru a bydd y siaradwyr yn cynnwys Eleri Probert, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Caroline Phipps, Prif Weithredwr Barod ac Anne Capel, The Wallich.

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh