Gofod3
Gofod3

Yma gallwch ddarganfod beth ddigwyddodd yn gofod3 2024.

Gallwch ddefnyddio'r opsiynau hidlo i ddod o hyd i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â phynciau penodol, mathau o ddigwyddiadau, yn ôl amser, lefel cyfranogiad a lefel yr wybodaeth sydd ei hangen. Mae gennym hefyd opsiwn cipolwg defnyddiol lle gallwch weld yr holl ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn ôl amser a pwy oedd yn cyflwyno’r digwyddiad.

Fel yn y blynyddoedd cynt, roedd gofod3 am ddim i fynychu. Nodwch fod cofrestriad ar gyfer sesiynau unigol eisoes wedi cau.

Mae cofrestru ar gyfer mynediad cyffredinol bellach ar gau hefyd.

Cofrestrwch ar gyfer mynediad cyffredinol

Eleni defnyddiwyd Luma i reoli archebion sesiynau. Roedd cofrestru gyda Luma yn caniatáu i chi weld a rheoli'r sesiynau yr oeddech wedi archebu lle arnynt.

View by...

Gofalwyr

Cyd-gynhyrchu

Cyfathrebu

Diogelu Data

Digidol

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ynni

Cyllido

Codi arian

Llywodraethu

Iechyd a gofal cymdeithasol

Effaith

Aeweinyddiaeth

Iechyd meddwl

Polisi

Diogelu

Gwirfoddoli

Y Gymraeg

Dangos Popeth

Diweddariad ar weithgarwch gwleidyddol a’r gyfraith elusennau

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G1

Llywodraethu
Os yw eich elusen yn bwriadu cymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol a/neu ymgyrchu dros y misoedd nesaf, yna mae angen i chi ddeall y rheolau. Ymunwch â Geldards i drafod sut gall elusennau gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, gyda diweddariad cyffredinol ar y gyfraith elusennau i ddilyn. www.geldards.com

Gwella iechyd a lles

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G10

Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl
Rydyn ni am helpu pawb i fyw bywyd iach, mwy egnïol a gwella’u lles. Bydd y sesiwn hon gyda Sefydliad Cymunedol CPD Dinas Caerdydd yn arddangos sut rydyn ni’n defnyddio pêl-droed fel cyfrwng i wella iechyd a lles yn ein cymunedau drwy ymyriadau a phrosiectau wedi’u targedu, gan rannu negeseuon iechyd pwysig a hyrwyddo ymdeimlad o berthyn. www.cardiffcityfcfoundation.org.uk

Oes gennych chi gwestiwn am ddefnydd ynni eich adeilad?

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G13

Ynni
Archebwch slot yn ein clinig i ofyn cwestiynau am y canlynol: Ymholiadau TAW Ymholiadau bilio Gweithio tuag at sero net Llywio’r farchnad ynni …unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych am ynni! I archebu eich sesiwn un-i-un am ddim, e-bostiwch: [email protected]

Gweithio tuag at gynhwysiant rhyngblethol

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G11

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ble ydyn ni wedi cyrraedd a pha waith sydd eto i’w wneud? Ymunwch â chwmni theatr cynhwysol Hijinx sy’n gweithio gydag artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a NAWA (Niwroamrywiaeth a Gwrth-hiliaeth yng Nghelfyddydau Cymru) wrth iddynt olrhain eu taith barhaus i wneud cynhwysiant yn gwbl rhyngblethol. Bydd y sesiynau’n cynnwys rhagflas o hyfforddiant cyfathrebu ac ymarferion theatr fforwm gydag actorion Hijinx, rhannu’r hyn a ddysgwyd hyd yma ym mhrosiect NAWA, ac amser ar gyfer trafodaeth a chwestiynau gan fynychwyr.

Dinoethi’r sector – wynebu ein heriau presennol a dychmygu dyfodol mwy gwydn

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: gofod3 theatre

Aeweinyddiaeth
Polisi
Beth yw’r prif heriau llwyddo neu fethu sy’n wynebu’r sector gwirfoddol? Pa argraff sydd gan bobl o’r sector ac a yw’r argraff honno’n deg? Beth allem ni, neu dylem ni, ei wneud yng Nghymru i fynd i’r afael â’n heriau, newid argraff pobl a chynnig mwy o werth i ddefnyddwyr gwasanaethau, rhoddwyr a chyllidwyr? Dyma’r cwestiynau y bydd ein panel arbenigwyr yn eu trafod wrth edrych ar themâu fel yr argyfwng o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, meithrin gweithlu iach, amrywiol a gwydn ac adeiladu sector sy’n addas i’r dyfodol. Bydd yn cynnwys: Laura Hamilton, Ymgynghorydd Cynnwys a Rheolaeth Gwirfoddoli Ewan Hilton, Prif Weithredwr, Platfform Nicki Needle, Rheolwr Gwasanaethau Integredig Llesiant/Arweinydd Rhwydweithiau Lles Integredig, Cyngor Sir Fynwy Malcolm John, Sefydlwr, Action for Trustee Radial Diversity Rachel Marshall, Rheolwr Cymru, Lloyds Bank Foundation Menai Owen-Jones, Prif Weithredwr, LATCH Elusen Canser Plant Cymru Bydd yn cael ei gadeirio gan: Betsan Powys, Newyddiadurwr

Profi’r digidol: Deallusrwydd Artiffisial

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G6

Digidol
Cyflwynir drwy gyfrwng y a Saesneg Mae Deallusrwydd Artiffisial ar gynnydd ac yn trawsnewid y dirwedd ddigidol gan effeithio ar sut rydyn ni’n gweithio ac yn darparu gwasanaeth. Fel adnodd sy’n cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer twf, effeithlonrwydd ac arloesi, gall fod yn anodd gwybod sut, neu os dylid, dechrau ei ddefnyddio yn eich gwaith. Yn y sesiwn ymarferol hon byddwch yn cael cyfle i roi cynnig ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial, gan ddod i ddeall yn well beth ydyw, ei wahanol gymwysiadau, ac ystyriaethau moesegol ar gyfer ei ddefnyddio. Drwy weithgareddau ymarferol, byddwch yn cael cyfle i ddefnyddio a hyfforddi modelau Deallusrwydd Artiffisial, ac ystyried sut y gallai gefnogi nodau eich mudiad. Bydd y sesiwn yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, ac yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector.

Pam mae angen i chi adeiladu cerflun data

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G8

Digidol
Cyflwynir drwy gyfrwng y a Saesneg Fel rhan o raglen DataBasicCymru, bydd y sesiwn ddiddorol hon yn helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder o ran dadansoddi data ac adrodd straeon. Nid cwrs Excel mo hwn, ac nid oes angen profiad blaenorol o ddata! Os ydych chi eisiau dod yn fwy hyderus wrth drin a defnyddio data, ymunwch â Róisín Roberts ac Ieuan Wade o Data Cymru a fydd yn eich cefnogi ar daith ddata hwyliog a diddorol. Mae Data Cymru yn cael ei gyllido a’i berchnogi’n llwyr gan y llywodraeth leol yng Nghymru ac mae’n cynnig ystod o gymorth arbenigol sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae’r sesiynau yma wedi’i drefnu fel rhan o Brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ProMo-Cymru. https://www.data.cymru/cym/databasiccymru

Diogelu eich gwirfoddolwyr

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G9

Diogelu
Gwirfoddoli
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar eich gwirfoddolwyr ac yn trafod arferion gorau wrth ddiogelu a recriwtio. Mewnbwn wedi’i baratoi fydd yr hanner awr gyntaf, gydag amser ar gyfer cwestiynau a rhwydweithio ar ôl hynny. www.wcva.cymru/diogelu

Iechyd a lles yng Nghymru – a ydyn ni’n bwysig?

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G2

Iechyd a gofal cymdeithasol
Wedi’i chyflwyno gan Brosiect Iechyd a Gofal CGGC, mae’r sesiwn hon yn seiliedig ar eu papur ymchwil: ‘Pam mae’r trydydd sector yn bwysig i iechyd a lles yng Nghymru’, a gomisiynwyd ar ôl adroddiad Comisiwn Bevan: ‘Gwerth a gwerthoedd y trydydd sector: cydweithio â’r sector statudol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru’. Ar ôl crynodeb byr gan awdur yr adroddiad, Richard Newton, bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, yn cadeirio trafodaeth banel gyda Kate Williams, Cymorth Canser Macmillan; Chris Johnes, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau; a Lyndsey Campbell-Williams, Medrwn Môn. https://wcva.cymru/cy/projects/prosiect-iechyd-a-gofal-cggc/

Ehangu eich rhwydweithiau: pecyn cymorth ymarferol

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G5

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Dyma sesiwn gan brosiect ‘Catalydd Cymru – Ehangu Gorwelion’ CGGC. Mae ehangu gorwelion mudiadau’n hanfodol os ydynt eisiau ehangu eu rhwydweithiau a’u cyrhaeddiad er mwyn bod yn fwy cynhwysol a hygyrch i gymunedau amrywiol. Yn ei dro, mae hyn hefyd yn cyfrannu at fagu gwydnwch gwell. Mae’r sesiwn hon yn cynnig cyfle i glywed am y gwersi ar gynhwysiant a ddysgwyd gan fudiadau treftadaeth a gymerodd ran ym mhrosiect Catalydd Cymru. Bydd yn cynnwys cyflwyniad i’r pecyn cymorth ‘ehangu eich rhwydweithiau’ dwyieithog sydd newydd ei ddatblygu a chyfle i rannu dulliau gweithredu ymarferol y gallech eu mabwysiadu yn eich mudiad eich hun. https://wcva.cymru/cy/projects/catalydd-cymru-ehangu-gorwelion/

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu am gyd-gynhyrchu: Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G12

Cyd-gynhyrchu
Gwirfoddoli
A ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr? Dewch i’r sesiwn ddiddorol hon i ddysgu ffyrdd newydd o gyd-gynhyrchu a gwella eich arferion wrth gefnogi gwirfoddolwyr, yn enwedig os nad oes gennych chi lawer o aelodau staff. Mae’r sesiwn hon yn dangos effaith Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG), sy’n hybu arferion gorau ar draws y sector gwirfoddol, gan leihau dyblygu. Yn y sesiwn hon, byddwch yn clywed gan dri mudiad sydd wedi derbyn un o Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru, gan gynnwys Foothold a fydd yn siarad am eu taith gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc. Mae hwn yn gyfle i ymwreiddio arferion gorau yn eich mudiad, gan arbed amser gwerthfawr i chi. https://wcva.cymru/cy/cyllid/cgg/

Popeth sydd angen i chi ei wybod am y Ddeddf Absenoldeb Gofalwr

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G7

Gofalwyr
Daeth y Ddeddf Absenoldeb Gofalwr i rym ar 6 Ebrill 2024, sy’n golygu bod yn rhaid i bob cyflogwr fod yn barod nawr i gefnogi gofalwyr di-dâl yn eu gweithleoedd. Ymunwch â Gofalwyr Cymru am sesiwn ddiddorol ar y darn newydd hwn o ddeddfwriaeth. Bydd yn gyfle gwych i chi ddeall y Ddeddf yn well – a bydd yn dangos cyfrifoldebau cyflogwr i gydymffurfio â’r Ddeddf a’r hawliau newydd i ofalwyr yn y gweithle. https://www.carersuk.org/cy/wales/

Llwyddo i gynhyrchu incwm amrywiol

Mer 5 Meh 2024, 10:00am

Ystafell: G3

Cyllido
Mae sicrhau ffrwd incwm amrywiol yn cynyddu gwydnwch mudiad, a dyma pam y mae’n bwysicach nag erioed bod gan bobl sy’n gweithio gyda’r sector gwirfoddol y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i adnabod a sicrhau cyllid cynaliadwy. Yn y sesiwn hon, byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan elusen fechan am eu taith i amrywio eu hincwm, a fydd yn cynnwys cyfle i ofyn cwestiynau ac edrych ar eich gobeithion a’ch heriau. Magwch hyder yn eich gallu i fynd ati’n llwyddiannus i amrywio incwm eich mudiad yn gywir fel y gallwch barhau â’r gwaith gwych rydych chi’n ei wneud. https://wcva.cymru/cy/hafan/

Pam mae angen i chi adeiladu cerflun data

Mer 5 Meh 2024, 11:00am

Ystafell: G8

Digidol
Cyflwynir drwy gyfrwng y a Gymraeg Fel rhan o raglen DataBasicCymru, bydd y sesiwn ddiddorol hon yn helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder o ran dadansoddi data ac adrodd straeon. Nid cwrs Excel mo hwn, ac nid oes angen profiad blaenorol o ddata! Os ydych chi eisiau dod yn fwy hyderus wrth drin a defnyddio data, ymunwch â Róisín Roberts ac Ieuan Wade o Data Cymru a fydd yn eich cefnogi ar daith ddata hwyliog a diddorol. Mae Data Cymru yn cael ei gyllido a’i berchnogi’n llwyr gan y llywodraeth leol yng Nghymru ac mae’n cynnig ystod o gymorth arbenigol sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae’r sesiynau yma wedi’i drefnu fel rhan o Brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ProMo-Cymru. https://www.data.cymru/cym/databasiccymru

Gwella iechyd a lles

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G10

Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl
Rydyn ni am helpu pawb i fyw bywyd iach, mwy egnïol a gwella’u lles. Bydd y sesiwn hon gyda Sefydliad Cymunedol CPD Dinas Caerdydd yn arddangos sut rydyn ni’n defnyddio pêl-droed fel cyfrwng i wella iechyd a lles yn ein cymunedau drwy ymyriadau a phrosiectau wedi’u targedu, gan rannu negeseuon iechyd pwysig a hyrwyddo ymdeimlad o berthyn. www.cardiffcityfcfoundation.org.uk

Oes gennych chi gwestiwn am ddefnydd ynni eich adeilad?

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G13

Ynni
Archebwch slot yn ein clinig i ofyn cwestiynau am y canlynol: Ymholiadau TAW Ymholiadau bilio Gweithio tuag at sero net Llywio’r farchnad ynni …unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych am ynni! I archebu eich sesiwn un-i-un am ddim, e-bostiwch: [email protected]

Gweithio tuag at gynhwysiant rhyngblethol

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G11

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ble ydyn ni wedi cyrraedd a pha waith sydd eto i’w wneud? Ymunwch â chwmni theatr cynhwysol Hijinx sy’n gweithio gydag artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a NAWA (Niwroamrywiaeth a Gwrth-hiliaeth yng Nghelfyddydau Cymru) wrth iddynt olrhain eu taith barhaus i wneud cynhwysiant yn gwbl rhyngblethol. Bydd y sesiynau’n cynnwys rhagflas o hyfforddiant cyfathrebu ac ymarferion theatr fforwm gydag actorion Hijinx, rhannu’r hyn a ddysgwyd hyd yma ym mhrosiect NAWA, ac amser ar gyfer trafodaeth a chwestiynau gan fynychwyr.

Profi’r digidol: Offer digidol i gefnogi’ch gwaith

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G6

Digidol
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg Yn ein hamgylchedd gwaith cyflym a phrysur, gall gwybod pa offer digidol i’w defnyddio fod yn allweddol i arbed amser, arian ac egni. Yn y sesiwn ymarferol hon, cewch gyfle i brofi gwahanol offer digidol i’ch helpu i symleiddio tasgau, rheoli’ch prosiectau a chyflawni’ch nodau. Byddwn yn edrych ar wahanol offer fel Teams, Planner, Padlet, Sway a mwy, gan archwilio sut y gallan nhw ryddhau eich amser a’i gwneud hi ychydig yn haws gweithio’n ddigidol. Bydd y sesiwn yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, ac yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector.

Hyfforddiant ar ddiogelu

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G9

Diogelu
Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar beth mae’r canllawiau cenedlaethol diweddar mewn safonau hyfforddiant diogelu yn ei olygu i’r sector gwirfoddol? Mewnbwn wedi’i baratoi fydd yr hanner awr gyntaf, gydag amser ar gyfer cwestiynau a rhwydweithio ar ôl hynny. www.wcva.cymru/diogelu

Creu gobaith ac iachâd: gweithio mewn ffordd a hysbysir gan drawma i fynd i’r afael ag iechyd meddwl cymunedol

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G1

Iechyd meddwl
Byddwch yn rhan o waith Platfform ar ddatblygu’r sgwrs ynghylch iechyd meddwl yng nghyd-destun cyfiawnder cymdeithasol a newid system. Dewch i’r sesiwn hon i ddysgu mwy am y ffordd wahanol y mae Platfform yn mynd ati i ymdrin ag iechyd meddwl, sy’n creu gobaith ac iachâd drwy gymuned ac yn ymwreiddio arferion a diwylliant perthynol a hysbysir gan drawma ar draws mudiadau yng Nghymru. Bydd Platfform yn dangos sut mae dull gweithredu perthynol yn gweithio’n ymarferol, drwy greu gofod cynnes a chroesawgar i bobl gysylltu fel bodau cyfartal, a bod yn chwilfrydig ynghylch storïau a syniadau. www.platfform.org

Sut gall y Brifysgol Agored yng Nghymru helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G3

Gwirfoddoli
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru, mewn partneriaeth â’r cynghorau gwirfoddol rhanbarthol ac CGGC, wedi datblygu’r rhaglen ‘Elwa drwy Wirfoddoli’. Mae’n helpu gwirfoddolwyr i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau fel eu bod yn manteisio i’r eithaf ar wirfoddoli – neu hyd yn oed yn symud ymlaen i rôl wirfoddoli uwch. Dyma rai o’r pynciau y byddwn yn edrych arnynt: gwydnwch a llesiant arweinyddiaeth dysgu pellach Yn y sesiwn hon, byddwn yn trafod sut gall Elwa ar Wirfoddoli eich helpu chi a’ch mudiad. Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru hefyd eisiau clywed eich syniadau ar sut gellid datblygu’r rhaglen yn y dyfodol. https://www5.open.ac.uk/wales/cy

Defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G7

Cyfathrebu
Y Gymraeg
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg (darperir cyfieithu ar y pryd). Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno canllaw newydd ar ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol – pwnc sy’n cael ei godi’n gyson gan sefydliadau yn y sector gwirfoddol. Pwrpas y canllaw yw cynnig arweiniad ac atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin, gan gynnwys enghreifftiau go iawn a phrofiadau eraill. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y canllaw a chynyddu defnydd eich sefydliad o’r Gymraeg mewn ffordd ymarferol. https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/busnesau-ac-elusennau

Gwerth a gwerthoedd y sector gwirfoddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G5

Iechyd a gofal cymdeithasol
Mae hon yn sesiwn a gyflwynir gan Brosiect Iechyd a Gofal CGGC. Bydd yr awdur, Richard Newton, yn crynhoi ei adroddiad Comisiwn Bevan: ‘Gwerth a gwerthoedd y trydydd sector: cydweithio â’r sector statudol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan drafodaeth banel ar ei brif ganfyddiadau. Bydd hyn yn cynnwys rôl hanfodol y sector gwirfoddol mewn gwella, ehangu ac ategu’r ddarpariaeth statudol o iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig ei werthoedd a’i gryfderau, gan gynnwys budd cyhoeddus a gwerth cymdeithasol. https://wcva.cymru/cy/projects/prosiect-iechyd-a-gofal-cggc/

Arweinwyr Cymdeithasol Cymru – Gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu arweinyddiaeth yng Nghymru

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G2

Aeweinyddiaeth
Ymunwch â ni i ddweud eich dweud am ddyfodol datblygu arweinyddiaeth ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Dysgwch am y rhaglenni datblygu arweinyddiaeth am ddim sy’n cael eu cynnal ledled Cymru yn 2024 a 2025. Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership ac CGGC, a gyllidir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd y sesiwn yn ystyried: beth yw arweinyddiaeth dda pan rydych chi’n gweithio yng Nghymru pam ddylech chi fuddsoddi mewn datblygu arweinyddiaeth ar gyfer eich arweinwyr sut gallwn ni gefnogi datblygu arweinyddiaeth yng https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/gwasanaethau/social-leaders-cymru/

Helpu mudiadau gwirfoddol Cymru i arloesi gyda Microsoft Modern Workplace ac AI

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G4

Digidol
Yn y sesiwn hon, bydd Pugh Computers yn helpu i egluro sut gall mudiadau gwirfoddol o bob maint fabwysiadu datrysiadau Microsoft Modern Workplace yn llwyddiannus, gan gynnwys Microsoft 365, mannau cyfarfod hybrid Microsoft Teams a Copilot AI. Dewch i ddarganfod: sut gall M365 wella eich cynhyrchiant, cydweithrediad a’ch diogelwch i’r eithaf sut i ddefnyddio Microsoft Copilot AI yn gyntaf neu ei gyflwyno ledled y mudiad rôl mannau cyfarfod hybrid modern cynhwysol a chynaliadwy sut i ddefnyddio Microsoft Copilot i grynhoi cyfarfodydd, llunio negeseuon e-bost, creu cyflwyniadau a mwy. https://www.pugh.co.uk/ (Saesneg yn unig) Methu mynychu #gofod3 yn bersonol eleni? Dyma un o ddwy sesiwn rydyn ni’n eu treialu mewn fformat hybrid. I gofrestru i fynychu ar-lein, ewch i: https://lu.ma/u7eq2a7w

Adeiladu cymunedau a galluogi llwybrau gwirfoddoli drwy Tempo Time Credits

Mer 5 Meh 2024, 11:30am

Ystafell: G12

Gwirfoddoli
Dewch i’r sesiwn hamddenol hon i gael gwybod sut gallai Tempo Time Credits fod yn fuddiol i chi, eich gwaith a’ch gwirfoddolwyr. Pwy yw Tempo a beth yw Tempo Time Credits? Beth yw’r buddion i fudiadau, grwpiau a gwirfoddolwyr a sut gallant gefnogi llwybrau i wirfoddoli? Dysgwch sut y gellir defnyddio credydau amser fel adnodd ar gyfer ymgysylltu, mapio asedau a chyd-gynhyrchu yn y sesiwn ddiddorol hon. https://wearetempo.org/w_home/

Pam mae angen i chi adeiladu cerflun data

Mer 5 Meh 2024, 12:00pm

Ystafell: G8

Digidol
Cyflwynir drwy gyfrwng y a Saesneg Fel rhan o raglen DataBasicCymru, bydd y sesiwn ddiddorol hon yn helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder o ran dadansoddi data ac adrodd straeon. Nid cwrs Excel mo hwn, ac nid oes angen profiad blaenorol o ddata! Os ydych chi eisiau dod yn fwy hyderus wrth drin a defnyddio data, ymunwch â Róisín Roberts ac Ieuan Wade o Data Cymru a fydd yn eich cefnogi ar daith ddata hwyliog a diddorol. Mae Data Cymru yn cael ei gyllido a’i berchnogi’n llwyr gan y llywodraeth leol yng Nghymru ac mae’n cynnig ystod o gymorth arbenigol sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae’r sesiynau yma wedi’i drefnu fel rhan o Brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ProMo-Cymru. https://www.data.cymru/cym/databasiccymru

Oes gennych chi gwestiwn am ddefnydd ynni eich adeilad?

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G13

Ynni
Archebwch slot yn ein clinig i ofyn cwestiynau am y canlynol: Ymholiadau TAW Ymholiadau bilio Gweithio tuag at sero net Llywio’r farchnad ynni …unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych am ynni! I archebu eich sesiwn un-i-un am ddim, e-bostiwch: [email protected]

Gweithio tuag at gynhwysiant rhyngblethol

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G11

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ble ydyn ni wedi cyrraedd a pha waith sydd eto i’w wneud? Ymunwch â chwmni theatr cynhwysol Hijinx sy’n gweithio gydag artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a NAWA (Niwroamrywiaeth a Gwrth-hiliaeth yng Nghelfyddydau Cymru) wrth iddynt olrhain eu taith barhaus i wneud cynhwysiant yn gwbl rhyngblethol. Bydd y sesiynau’n cynnwys rhagflas o hyfforddiant cyfathrebu ac ymarferion theatr fforwm gydag actorion Hijinx, rhannu’r hyn a ddysgwyd hyd yma ym mhrosiect NAWA, ac amser ar gyfer trafodaeth a chwestiynau gan fynychwyr.

Deall ac ail-lunio safonau cyllido Llywodraeth Cymru

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G3

Cyllido
Polisi
Sesiwn gan Lywodraeth Cymru yw hon a fydd yn eich arwain drwy’r ‘Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector’ (drafft) newydd sy’n bwriadu cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn. Ymunwch â Phil Fiander, Cadeirydd Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfio Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, ynghyd ag aelodau eraill o’r pwyllgor a swyddogion Llywodraeth Cymru, i ddysgu mwy am y safonau cyllido newydd hyn a rhoi eich barn arnynt. Os ydych chi eisiau estyn help llaw i ail-lunio’r dirwedd gyllido yng Nghymru neu ddeall arferion gorau yn y maes cyllido’n well, dewch i’r sesiwn.

Dosbarth Meistr: Y peth cyntaf i’w wneud os ydych chi am fod yn well gyda data

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G8

Digidol
Effaith
Mae hon yn sesiwn ar gyfer unrhyw un sydd am i’w mudiad fod yn well wrth ddefnyddio data. O ddechrau gyda dangosfyrddau syml i ddefnyddio pŵer Deallusrwydd Artiffisial: mae angen i chi ddeall aeddfedrwydd data eich mudiad. Mae fframwaith aeddfedrwydd data Data Orchard sydd am ddim yn helpu mudiadau nid-er-elw ledled y byd i ddeall ble maen nhw o ran saith thema aeddfedrwydd data a chynllunio ar gyfer gwelliannau. Mae asesu eich aeddfedrwydd data yn fwy na dim ond offeryn cynllunio, gall helpu i godi ymwybyddiaeth o’r posibiliadau ar draws y mudiad, dechrau sgyrsiau gwych a sbarduno newid. Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod pam y gallech fod am gynnal asesiad aeddfedrwydd data, esbonio sut i fynd ati a sut i droi’r mewnwelediadau yn strategaeth ddata ystyrlon. Bydd fformat y sesiwn yn gyfuniad o gyflwyniad a thrafodaeth. Yn ddelfrydol mae hon yn sesiwn ar gyfer uwch reolwyr, arweinwyr data ac ymddiriedolwyr. Madeleine Spinks, Cyd-Brif Weithredwr Data Orchard a Ben Proctor, Cyfarwyddwr Arloesi Data Orchard fydd yn arwain y sesiwn. https://www.dataorchard.org.uk (Saesneg yn unig)

Polisïau diogelu

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G9

Diogelu
Bydd y sesiwn hon yn amlygu prif elfennau polisi diogelu o safon. Mewnbwn wedi’i baratoi fydd yr hanner awr gyntaf, gydag amser ar gyfer cwestiynau a rhwydweithio ar ôl hynny. www.wcva.cymru/diogelu

Sgwrs rhwng comisiynwyr: llunio’r sector gwirfoddol yng Nghymru

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: gofod3 theatre

Aeweinyddiaeth
Polisi
Y Gymraeg
Yn aml, mae ein comisiynwyr yng Nghymru yn chwarae rhan ddynamig mewn tynnu sylw at y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau. Mae llais pob un ohonynt yn gyrru’r sgyrsiau hyn yn eu blaen, boed hynny drwy waith craffu, syniadau arloesol neu ddatrysiadau ymarferol. Mae hwn yn ddigwyddiad prin ac arbennig a fydd yn dod â Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Heléna Herklots CBE, y Comisiynydd Pobl Hŷn, Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg ac Sara Jermin, Dirprwy Gomisiynydd, Comisiynydd Plant Cymru, ynghyd mewn sgwrs, gan gynnig cyfle i fynychwyr gofod3 ofyn cwestiynau am eu safbwyntiau a’u blaenoriaethau unigryw nhw ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Peidiwch â cholli’r E2digwyddiad tyngedfennol hwn a fydd yn deffro’ch meddwl ac o bosibl yn rhoi’r cyfle i chi ymhél yn uniongyrchol â’r arweinyddion dylanwadol hyn.

Ymwreiddio diwylliant a hysbysir yn berthynol gan drawma yn eich mudiad

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G1

Iechyd meddwl
Byddwch yn rhan o waith Platfform ar ddatblygu’r sgwrs ynghylch iechyd meddwl yng nghyd-destun cyfiawnder cymdeithasol a newid system. Dewch i’r sesiwn hon i ddysgu mwy am y ffordd wahanol y mae Platfform yn mynd ati i ymdrin ag iechyd meddwl, sy’n creu gobaith ac iachâd drwy gymuned ac yn ymwreiddio arferion a diwylliant perthynol a hysbysir gan drawma ar draws mudiadau yng Nghymru. Bydd Platfform yn dangos sut mae dull gweithredu perthynol yn gweithio’n ymarferol, drwy greu gofod cynnes a chroesawgar i bobl gysylltu fel bodau cyfartal, a bod yn chwilfrydig ynghylch storïau a syniadau. www.platfform.org

Chwilio’r da. Beth yw’r tendr mwyaf manteisiol mewn gwirionedd?

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G5

Cyllido
Wedi’i harwain gan Fforwm Elusennau Bach Cymru a chyda phanelwyr traws-sector o bob rhan o Gymru, bydd y drafodaeth banel hon yn ymdrin ag arferion da mewn comisiynu. Yng nghyd-destun diwygiadau polisi mawr, dyma gyfle i wrando ar safbwyntiau amrywiol, datblygu’r ddeialog a dyfnhau’r ddealltwriaeth o bopeth sy’n ymwneud â chomisiynu, caffael a gwerth cymdeithasol yng Nghymru. https://www.lloydsbankfoundation.org.uk/ (Saesneg yn unig)

Defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G2

Cyfathrebu
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg (darperir cyfieithu ar y pryd) Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno canllaw newydd ar ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol – pwnc sy’n cael ei godi’n gyson gan sefydliadau yn y sector gwirfoddol. Pwrpas y canllaw yw cynnig arweiniad ac atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin, gan gynnwys enghreifftiau go iawn a phrofiadau eraill. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y canllaw a chynyddu defnydd eich sefydliad o’r Gymraeg mewn ffordd ymarferol. https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/busnesau-ac-elusennau

Dylunio gwasanaethau digidol sy’n gweithio

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G4

Digidol
Dysgwch sut i wella’ch sgiliau digidol ac adeiladu gwasanaethau gyda chymunedau. Bydd ProMo Cymru yn rhannu sut maen nhw’n cyfuno gwaith ieuenctid a chymunedol gydag egwyddorion dylunio gwasanaethau i greu gwasanaethau a phrofiadau digidol sy’n gweithio i bobl. Yn ystod y sesiwn ryngweithiol hon, bydd ProMo yn dod â’r broses dylunio gwasanaethau pedwar cam yn fyw, gan rannu enghreifftiau, awgrymiadau ac adnoddau perthnasol. Cyflwynir y sesiwn hon gan Newid: Digidol ar gyfer y Trydydd Sector, rhaglen a gyllidir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag CGGC, ProMo-Cymru a Cwmpas, gyda chefnogaeth Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. https://www.newid.cymru/cy/

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu am bartneriaeth: Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G12

Cyd-gynhyrchu
Gwirfoddoli
Yn y sesiwn hon, bydd Cymdeithas Eryri, Sported a Rhwydwaith Gweithredu Dros yr Hinsawdd Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu fel derbynyddion Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG). Bydd Cymdeithas Eryri yn siarad am ei phartneriaeth gydweithredol â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored i leihau dyblygu, a chanoli gwaith amgylcheddol yn yr ardal leol, gan gynnwys cydlynu gwirfoddolwyr. Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu am y dulliau gorau o fynd ati i greu partneriaethau cydweithredol yng Nghymru, ymwreiddio arferion gorau yn eich mudiad, ac arbed amser gwerthfawr i chi. https://wcva.cymru/cy/cyllid/cgg/

Archwilio annibynnol mewn llywodraethiant elusennau – pam mae’n bwysig a sut i gymryd rhan

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G7

Llywodraethu
Edrychwch ar rôl archwilio annibynnol mewn cefnogi llywodraethiant da, beth i edrych amdano mewn archwiliad annibynnol, a pham allech ystyried hyfforddi fel archwiliwr annibynnol. Mae’r Association of Charity Independent Examiners (ACIE) yn canolbwyntio ar godi safonau archwiliadau annibynnol. Wedi’i sefydlu ym 1999, ACIE yw’r unig gorff proffesiynol sy’n canolbwyntio ar archwilio annibynnol yn unig, sy’n rhoi ychydig o sicrwydd annibynnol bod arian elusen wedi’i gyfrifo’n briodol a bod cofnodion cyfrifyddu wedi’u cadw. www.acie.org.uk (Saesneg yn unig)

Sesiwn galw heibio Cyflog Byw go iawn – cael eich achrediad a gwneud y gorau ohono

Mer 5 Meh 2024, 1:30pm

Ystafell: G10

Llywodraethu
Ymunwch â’r sesiwn galw heibio hon gyda Cynnal Cymru, partner achredu’r Sefydliad Cyflog Byw, i glywed mwy am sut gallwch chi gefnogi’ch mudiad chi i gael achrediad Cyflog Byw go iawn. Bydd ein tîm yn gallu rhoi cyngor ar faterion technegol, manteision cael achrediad Cyflog Byw go iawn, a sut gall gweithwyr mudiadau sydd eisoes wedi’u hachredu gymryd mwy o ran yr ymgyrch i sicrhau Cyflog Byw go iawn ar draws eu hardal leol neu sector. Mae Cynnal Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cyflog Byw i gefnogi cyflogwyr gyda’u hachrediad ac i sicrhau’r Cyflog Byw i holl weithwyr Cymru. www.cyflogbyw.cymru

Rôl yr unigolyn diogelu dynodedig

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: G9

Diogelu
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar unigolion diogelu dynodedig – pwy ydynt a beth maen nhw’n ei wneud? Mewnbwn wedi’i baratoi fydd yr hanner awr gyntaf, gydag amser ar gyfer cwestiynau a rhwydweithio ar ôl hynny. www.wcva.cymru/diogelu

Gweithio tuag at gynhwysiant rhyngblethol

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: G11

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ble ydyn ni wedi cyrraedd a pha waith sydd eto i’w wneud? Ymunwch â chwmni theatr cynhwysol Hijinx sy’n gweithio gydag artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a NAWA (Niwroamrywiaeth a Gwrth-hiliaeth yng Nghelfyddydau Cymru) wrth iddynt olrhain eu taith barhaus i wneud cynhwysiant yn gwbl rhyngblethol. Bydd y sesiynau’n cynnwys rhagflas o hyfforddiant cyfathrebu ac ymarferion theatr fforwm gydag actorion Hijinx, rhannu’r hyn a ddysgwyd hyd yma ym mhrosiect NAWA, ac amser ar gyfer trafodaeth a chwestiynau gan fynychwyr.

Oes gennych chi gwestiwn am ddefnydd ynni eich adeilad?

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: G13

Ynni
Archebwch slot yn ein clinig i ofyn cwestiynau am y canlynol: Ymholiadau TAW Ymholiadau bilio Gweithio tuag at sero net Llywio’r farchnad ynni …unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych am ynni! I archebu eich sesiwn un-i-un am ddim, e-bostiwch: [email protected]

Dewch i fod yn rhan o ddatblygu dull newydd o ymdrin â gwirfoddoli yng Nghymru

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: G3

Polisi
Gwirfoddoli
Mae dull newydd o ymdrin â gwirfoddoli yng Nghymru yn cael ei ddatblygu gan randdeiliaid gwirfoddoli allweddol, gyda chymorth Llywodraeth Cymru ac CGGC. Ei nod yw diweddaru ac ehangu’r polisi presennol ar wirfoddoli yn unol â’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf, a’r arferion da sydd wedi’u canfod mewn gwledydd eraill. Bydd y dull newydd yn cael ei gyd-gynllunio gan randdeiliaid gwirfoddoli o bob sector. Os oes gennych ddiddordeb mewn Gwirfoddoli, bydd y sesiwn hon yn gyfle i fwydo i mewn i’r gwaith pwysig hwn ar yr adeg dyngedfennol. https://wcva.cymru/cy/projects/dull-newydd-o-wirfoddoli-yng-nghymru/

Cydymffurfio â’r gyfraith a diogelu hawliau pobl

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: G4

Diogelu Data
Llywodraethu
Mae mwy a mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o’u data personol a sut mae’n cael ei ddefnyddio. Mae’n rhaid i elusennau a mudiadau trydydd sector sydd am i bobl ymddiried ynddynt i gael pethau’n iawn – ac rydyn ni yma i helpu. Mae’r sesiwn hon yn gyfle i ddatblygu eich dealltwriaeth o Ddiogelu Data ac i gael cyngor gennym ar y meysydd yn ein cylch gorchwyl sydd bwysicaf i chi. Byddwch yn clywed gan ein tîm sy’n gweithio’n rheolaidd gyda’r sector elusennol a bydd cyfle i siarad â ni am eich profiadau o gydymffurfio â chyfraith hawliau gwybodaeth. Methu mynychu #gofod3 yn bersonol eleni? Dyma un o ddwy sesiwn rydyn ni’n eu treialu mewn fformat hybrid. I gofrestru i fynychu ar-lein, ewch i: https://lu.ma/64ykorxd

Troi’r dudalen gyda Dr Helen Stephenson CBE: ei mewnwelediadau a’i gweledigaeth

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: gofod3 theatre

Llywodraethu
Polisi
Dr Helen Stephenson CBE yw’r Prif Weithredwr sydd wedi bod gyda’r Comisiwn Elusennau hiraf. Mae Dr Stephenson, sydd wedi bod wrth y llyw am dros saith blynedd, wedi llywio drwy gymhlethdodau’r sector gwirfoddol mewn cyfnodau digyffelyb a heriol, gan gynnwys pandemig COVID-19. Wrth iddi baratoi i drosglwyddo’r awenau yn ddiweddarach yr haf hwn, bydd Dr Stephenson yn rhannu ei mewnwelediadau, ei myfyrdodau a’i dyheadau am ddyfodol y Comisiwn a’r dirwedd elusennol ehangach. Dyma eich cyfle i glywed gan arweinydd sydd wedi gadael nod parhaol ar y sector gwirfoddol gyda’i gwasanaeth ymroddgar. Bydd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr newydd CGGC yn ymuno â Helen am sgwrs ac i rannu myfyrdodau o’r diwrnod.

Mae newid yn anochel ond nid yw datblygiad: pam mae arnom angen math newydd o arweinyddiaeth

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: G1

Aeweinyddiaeth
A ydych chi eisiau cael eich ysbrydoli? Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i feddwl gyda gorwelion ehangach, cael sgyrsiau gwell, a chyflawni mwy o effaith. Dewch i’r sesiwn hon i ddysgu gan Heads Up, y rhwydwaith newid cymdeithasol, lle byddant yn rhannu syniadau, dysgu, gwersi a storïau ynghylch arweinyddiaeth arloesol o bob math. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys arweinyddiaeth ffeministaidd, strwythurau awdurdod llorwedd, nerth diwylliannau sefydliadol a mwy. https://hannahpudner.co.uk/headsup (Saesneg yn unig)

Lleibwyr cyfalafol yn erbyn cymunedau

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: G2

Polisi
Archebwch nawr i chwarae rhan weithredol yn y sesiwn fywiog a diddorol hon, a fydd yn cynnwys panel o chwe unigolyn o fudiadau cymunedol llawr gwlad a’r sector gwirfoddol ehangach a fydd yn asesu modelau economaidd gwahanol, data, asedau, mentrau cymdeithasol a gweithredu gwrthdlodi. Mae nifer y gynulleidfa wedi’i gadw’n fach yn fwriadol i alluogi trafodaeth ystyrlon a digon o amser i gyfranogwyr ymateb, rhannu eu profiadau a’u gwybodaeth eu hunain, ac i asesu pa mor briodol yw’r model economaidd i’w sefyllfaoedd. Bydd pob cyfraniad yn cael ei nodi a’i rannu, gan gynnwys holiaduron a chardiau addewid. www.tfcpembrokeshire.org/cy/

Cryfhau gwirfoddoli strategol yn sector chwaraeon cymunedol Cymru

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: G5

Gwirfoddoli
Mae hwn yn weithdy rhyngweithiol a arweinir gan Sported, rhwydwaith mwyaf y DU o grwpiau cymunedol sy’n hybu tegwch a chydraddoldeb i bobl ifanc. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y problemau a’r datrysiadau sy’n gysylltiedig â recriwtio a chadw gwirfoddolwyr ar lefelau bwrdd a phwyllgor ar draws sector chwaraeon cymunedol Cymru. Dewch i rannu eich gwybodaeth, unrhyw arferion da rydych chi wedi’u gweld, ac i ystyried y datrysiadau arloesol a chydweithredol sydd eu hangen i gryfhau gwirfoddoli ar lefelau bwrdd a phwyllgor ar draws sector chwaraeon cymunedol Cymru. www.sported.org.uk (Saesneg yn unig)

Sefydlu rhwydwaith codi arian

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: G10

Codi arian
Mae sicrhau cyllid cynaliadwy yn her gyson i fudiadau yn y sector gwirfoddol. Dewch i’r sesiwn gefnogol hon, lle gallwch ymuno ag eraill i ddadansoddi’r dasg hynod anodd o godi arian, ac yn benodol, y rôl o dyfu a datblygu rhwydwaith codi arian. Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan arweinydd elusen fechan am sut maen nhw wedi sefydlu rhwydwaith cymorth cyllido a sut mae hwn yn eu helpu i fynd ati i godi arian. https://wcva.cymru/cy/hafan/

Dod ynghyd i alluogi cyd-gynhyrchu yn y sector gwirfoddol

Mer 5 Meh 2024, 3:00pm

Ystafell: G7

Cyd-gynhyrchu
Dewch i’r sesiwn ddiddorol hon gyda thrafodaeth bord gron a chyflenwad o adnoddau sy’n ceisio annog ac ysbrydoli cyd-gynhyrchu ar draws y sector gwirfoddol. Waeth a ydych yn gweithio mewn corff cenedlaethol mawr neu ar brosiect lleol yn y gymuned, mae hwn yn gyfle i ddysgu ar draws sectorau am egwyddorion cyffredin cyd-gynhyrchu. Dysgwch am Brosiect Dewi, sydd wedi gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i integreiddio arferion cyd-gynhyrchiol, ac astudiaeth achos arfer gorau gan y sector gwirfoddol, sydd wedi defnyddio cyd-gynhyrchu’n llwyddiannus i greu canlyniadau positif i ddinasyddion. https://copronet.wales/cy/
Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh