Gweithdy sgiliau rhyngweithiol yw hwn sy’n cael ei gynnal gan Hwb Dyfodol, menter bartneriaeth newydd i gefnogi sgiliau meddwl hirdymor yng Nghymru.
Ymunwch â thîm Hwb i ddysgu am Ddylunio’r Dyfodol, techneg y gallwch ei defnyddio yn eich mudiad a’ch cymunedau.
Bydd arweinwyr y sesiynau yn gwahodd pobl i ddychmygu eu hunain wedi’u cludo i’r flwyddyn 2050, ac ystyried y cwestiynau hyn:
- Sut bydden nhw’n gweld y byd?
- Beth fydden nhw am ei weld?
- Pa benderfyniadau fydden nhw’n dymuno i’w rhagflaenwyr eu gwneud?
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

theatr gofod3
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.