Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Cydweithio dros iechyd a llesiant yn y gymuned

Mer 2 Gorff 2025, 2:30pm

Iechyd a gofal cymdeithasol
Mae’r sesiwn hon, a gynhelir ar y cyd rhwng Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), yn archwilio dull seiliedig ar le a sut y gall cydweithio traws-sectorol gyflawni ar lesiant pan fo’r sector gwirfoddol yn bartner cyfartal wrth y bwrdd. Wrth glywed safbwyntiau traws-sectorol llawr gwlad yn Sir Benfro, bydd y drafodaeth yn mynd i’r afael â chwestiynau allweddol, gan gynnwys: Sut y gellir meithrin gwell cydweithio (gan gynnwys gyda’r sector preifat) i wella cynaliadwyedd hirdymor ar gyfer gweithio mewn partneriaeth? Sut y gellid gwella strwythurau partneriaeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant a lleihau rhwystrau rhag cydweithio effeithiol?

Dylunio’r Dyfodol: Datblygu eich sgiliau meddwl hirdymor

Mer 2 Gorff 2025, 4:00pm

Gweithdy sgiliau rhyngweithiol yw hwn sy’n cael ei gynnal gan Hwb Dyfodol, menter bartneriaeth newydd i gefnogi sgiliau meddwl hirdymor yng Nghymru. Ymunwch â thîm Hwb i ddysgu am Ddylunio’r Dyfodol, techneg y gallwch ei defnyddio yn eich mudiad a’ch cymunedau. Bydd arweinwyr y sesiynau yn gwahodd pobl i ddychmygu eu hunain wedi’u cludo i’r flwyddyn 2050, ac ystyried y cwestiynau hyn: Sut bydden nhw’n gweld y byd? Beth fydden nhw am ei weld? Pa benderfyniadau fydden nhw’n dymuno i’w rhagflaenwyr eu gwneud?

Cynnwys cymunedau ar gyfer cydlyniant cymdeithasol

Mer 2 Gorff 2025, 11:00am

Datblygu cymunedol
Polisi a gwleidyddiaeth
Mae hon yn sesiwn sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds. Rydyn ni i gyd eisiau cymdeithas ac economi sy’n gweithio i bawb. Mae gan y sector gwirfoddol a chymdeithas sifil, yn fwy cyffredinol, ran allweddol i’w chwarae i wireddu hyn. Ymunwch â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds sy’n rhannu gweledigaeth o greu cymunedau cydlynol, teg, a ffyniannus, er mwyn datblygu’r sgwrs ynghylch rôl mudiadau cymunedol wrth sicrhau llesiant i bawb. Bydd y drafodaeth bord gron hon yn archwilio cwestiynau hanfodol fel: Sut gallwn ni gynyddu ymgysylltiad dinasyddion a’u hymddiriedaeth yn y broses o wneud penderfyniadau yn ystod cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol? Sut mae cydlyniant cymdeithasol yn cyd-fynd â hyn? Sut gallwn ni sicrhau bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau wir yn gwrando ar leisiau a phrofiadau pobl sydd wedi’u hymyleiddio neu sydd mewn amgylchiadau anodd ac yn eu gwerthfawrogi? Beth yw rôl cydweithio traws-sectorol wrth greu cyfleoedd i drafod?

Lansio’r weledigaeth gwirfoddoli newydd

Mer 2 Gorff 2025, 12:30pm

Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn elfen allweddol o gydlyniant cymunedol, a llesiant unigol a chyfunol. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol i gael 30% o bobl yn gwirfoddoli yn 2022-23, ond sut allwn ni gynnal ac adeiladu ar hyn? Sut allwn ni oresgyn rhai o’r heriau o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr y mae’r sector wedi’u profi ers 2023?
Gofod3
^
cyWelsh