Gofod3
Gofod3

Arwain newid digidol: Sgwrs

Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm

ProMo Cymru

Mae gan y gair “digidol” lawer o ystyron. Mae’n cwmpasu cyfrifiaduron a chaledwedd, y cyfryngau cymdeithasol, diogelwch a data, sut mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a phopeth rhyngddyn nhw.

Mae’n effeithio ar bob rhan o’n bywydau, yn esblygu’n gyflym ac yn cynnig y potensial i ddarparu gwell gwasanaethau sy’n diwallu anghenion a disgwyliadau newidiol pobl.

Yn ystod y sesiwn hon, bydd ProMo Cymru yn rhannu arfer da ac yn trafod y meddylfryd a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn fudiad sy’n datblygu’n ddigidol.

Bydd y tîm hefyd yn rhannu adnoddau a chyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi, er mwyn i chi allu cofleidio’r byd digidol yn 2025.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
ProMo Cymru
Arddangoswr
Dyddiad
Mer 2 Gorff 2025, 1:30pm
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Ystafell

Cofrestru

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marketing and statistics

Addasu eich dewisiadau

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
^
cyWelsh