Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Naid ddigidol Cymru – Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial fel uwch-bŵer i hybu gallu’r trydydd sector

Mer 2 Gorff 2025, 4:00pm

AI
Digidol
Mae elusennau Cymru yn wynebu heriau mawr, fel gormod o waith papur a diffyg adnoddau. Gall Deallusrwydd Artiffisial helpu drwy wneud tasgau diflas yn gyflym a rhyddhau amser ar gyfer gwaith arall. Yn y sesiwn hon, byddwch yn gweld Deallusrwydd Artiffisial ar waith ac yn dysgu sut i’w ddefnyddio ar gyfer eich mudiad. Ar ôl y sesiwn, bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn canllaw digidol er mwyn ail-ymgysylltu â’u dysgu. Dewch i ddysgu sut gall Deallusrwydd Artiffisial roi hwb i’ch cynhyrchiant a’ch helpu i wasanaethu eich cymuned yn well!

Gwirfoddoli ar sail sgiliau: Pawb ar eu hennill

Mer 2 Gorff 2025, 12:30pm

Gwirfoddoli
Dros ddeng mlynedd o gyflwyno rhaglenni gwirfoddoli yn seiliedig ar sgiliau, mae Sefydliad Banc Lloyds wedi gweld y gwerth maen nhw’n ei ychwanegu ar gyfer gwirfoddolwyr, elusennau, busnes a mwy. Yn y sesiwn hon, bydd cydweithwyr Sefydliad Banc Lloyds a phartneriaid elusennol yn rhannu eu profiadau a’u dysgu gyda chi. Dewch draw i glywed am brofiadau o’r gwahanol ffyrdd y gall gwirfoddoli yn seiliedig ar sgiliau fod o fudd i elusennau Cymru a sut y gallai partneriaethau traws-sector fod o fudd i elusennau a gwirfoddolwyr fel ei gilydd.

Arwain newid digidol: Sgwrs

Mer 2 Gorff 2025, 2:30pm

AI
Digidol
Mae gan y gair “digidol” lawer o ystyron. Mae’n cwmpasu cyfrifiaduron a chaledwedd, y cyfryngau cymdeithasol, diogelwch a data, sut mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a phopeth rhyngddyn nhw. Mae’n effeithio ar bob rhan o’n bywydau, yn esblygu’n gyflym ac yn cynnig y potensial i ddarparu gwell gwasanaethau sy’n diwallu anghenion a disgwyliadau newidiol pobl. Yn ystod y sesiwn hon, bydd ProMo Cymru yn rhannu arfer da ac yn trafod y meddylfryd a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn fudiad sy’n datblygu’n ddigidol. Bydd y tîm hefyd yn rhannu adnoddau a chyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi, er mwyn i chi allu cofleidio’r byd digidol yn 2025.

Naid ddigidol Cymru – Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial fel uwch-bŵer i hybu gallu’r trydydd sector

Mer 2 Gorff 2025, 11:00am

^
cyWelsh