Mae grwpiau cymunedol yn chwarae rhan allweddol yng ngwead llawer o lefydd yng Nghymru, gan gefnogi a chynnal seilwaith cymdeithasol hollbwysig a darparu cyfleoedd i bobl leol gyfarfod, mwynhau a chael mynediad at gymorth brys os oes angen. Mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn cynnig cyllid a chefnogaeth i gymunedau, yn ogystal â chyfleoedd i rannu a dysgu, a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Rhaglen datblygu cymunedol arloesol yw Buddsoddi’n Lleol, sydd â phobl yn ganolog iddi, ac sy’n rhedeg mewn 13 ardal ledled Cymru. Mae’n darparu £1 miliwn i bob ardal, i’w fuddsoddi fel mae trigolion lleol yn ei ystyried yn addas, er mwyn cyflawni eu nodau.
Ymunwch â’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau i glywed gan Swyddogion Buddsoddi’n Lleol a chyfranogwyr rhaglen Buddsoddi’n Lleol wrth iddyn nhw rannu eu profiadau, heriau, a’r gwersi a ddysgwyd o’r rhaglen Buddsoddi’n Lleol hyd yn hyn.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.