Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Y cyfryngau cymdeithasol a fy mhlentyn: Oes rhywbeth y dylwn ei wybod?

Mer 2 Gorff 2025, 4:00pm

Diogelu
Mae’r gweithdy amserol hwn yn edrych ar berthynas pobl ifanc â’r cyfryngau cymdeithasol a’r problemau sy’n codi i bobl ifanc a rhieni. Byddwch yn dysgu sut i helpu ein pobl ifanc a beth allwn ni ei wneud am broblemau pan fyddan nhw’n codi.

Arweinwyr Cymdeithasol Cymru – Blwyddyn yn ddiweddarach – Cydweithio i greu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ar gyfer sector gwirfoddol Cymru

Mer 2 Gorff 2025, 12:30pm

Arweinyddiaeth
Bydd y sesiwn hon yn rhannu sut mae’r rhaglenni arweinyddiaeth wedi cefnogi arweinwyr cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf i ddatblygu eu sgiliau arwain a darparu amgylchedd i feithrin llesiant a datblygu rhwydweithiau cyfoedion. Dewch draw i ddysgu am eu gwaith hyd yma, am ddyfodol datblygu arweinyddiaeth ar gyfer sector gwirfoddol Cymru a chynlluniau ar gyfer rhaglen datblygu arweinyddiaeth sydd wedi’i hariannu’n llawn. Partneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership a CGGC yw Arweinwyr Cymdeithasol Cymru sydd wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Os nad oedd modd i chi gymryd rhan yn y gweithdy y llynedd, mae hwn yn gyfle i ddweud eich dweud am ddyfodol rhaglenni arweinyddiaeth sydd bellach yn cael eu datblygu ar gyfer sector gwirfoddol Cymru.

Cymunedau wrth y llyw: Buddsoddi’n Lleol, stori rhaglen gymunedol fwyaf arloesol Cymru

Mer 2 Gorff 2025, 2:30pm

Datblygu cymunedol
Polisi a gwleidyddiaeth
Mae grwpiau cymunedol yn chwarae rhan allweddol yng ngwead llawer o lefydd yng Nghymru, gan gefnogi a chynnal seilwaith cymdeithasol hollbwysig a darparu cyfleoedd i bobl leol gyfarfod, mwynhau a chael mynediad at gymorth brys os oes angen. Mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn cynnig cyllid a chefnogaeth i gymunedau, yn ogystal â chyfleoedd i rannu a dysgu, a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Rhaglen datblygu cymunedol arloesol yw Buddsoddi’n Lleol, sydd â phobl yn ganolog iddi, ac sy’n rhedeg mewn 13 ardal ledled Cymru. Mae’n darparu £1 miliwn i bob ardal, i’w fuddsoddi fel mae trigolion lleol yn ei ystyried yn addas, er mwyn cyflawni eu nodau. Ymunwch â’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau i glywed gan Swyddogion Buddsoddi’n Lleol a chyfranogwyr rhaglen Buddsoddi’n Lleol wrth iddyn nhw rannu eu profiadau, heriau, a’r gwersi a ddysgwyd o’r rhaglen Buddsoddi’n Lleol hyd yn hyn.

Mesur tymheredd y sector: Cyflwyno baromedr Sector Gwirfoddol Cymru

Mer 2 Gorff 2025, 11:00am

Polisi a gwleidyddiaeth
Ymchwil
Beth sy’n mynd ymlaen mewn gwirionedd yn y sector gwirfoddol yng Nghymru? Helpwch ni i ddatgelu’r gwir. Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn y gwaith o lunio Baromedr Sector Gwirfoddol Cymru – cydweithrediad newydd rhwng CGGC, Llywodraeth Cymru ac Arsyllfa Data a Mewnwelediadau Sector Gwirfoddol, Cymunedol a Menter Gymdeithasol (VCSE) Prifysgol Nottingham Trent University. Nod y fenter hon yw llenwi bwlch pwysig: cyflwyno tystiolaeth amserol a dibynadwy ynghylch y sector gwirfoddol yng Nghymru er mwyn cefnogi penderfyniadau gwell, cefnogaeth gryfach a chyllid mwy effeithiol. Y sesiwn hon yw eich cyfle i: Rannu’r math o fewnwelediad a fyddai’n fwyaf defnyddiol yn eich gwaith Helpu i nodi’r cwestiynau allweddol y dylem fod yn eu gofyn Cyfrannu at gyd-gynhyrchu adnodd sy’n adlewyrchu cryfderau ac anghenion go iawn y sector Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn adeiladu rhywbeth ystyrlon – adnodd sy’n ein helpu i ddeall lle rydym ni, lle rydym yn anelu amdano, a sut gallwn gefnogi dyfodol y sector.
Gofod3
^
cyWelsh