Ymunwch ag un o Gyflenwyr Dibynadwy CGGC, Pugh Computers, am sesiwn ddiddorol llawn arloesedd AI a diweddariadau cyffrous.
- Rhyddhewch bŵer Microsoft Copilot AI AM DDIM i symleiddio ffrydiau gwaith a gwella creadigrwydd.
- Dysgwch sut mae Copilot a Microsoft Teams yn cyfuno’n ddi-dor i ddarparu cyfieithiadau Cymraeg o fewn eiliadau.
- Grymuswch eich tîm gyda datrysiadau gweithio hybrid wedi’u teilwra, gan gynnwys technoleg ystafell gyfarfod a phecynnau gweithio gartref wedi’u hardystio gan Teams.
- Arferion gorau wrth ymdrin â diogelu data a llywodraethu gyda rheoliadau diogelwch a dogfennau gorau M365.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.