Sut olwg fyddai ar bontio teg pe bai’r bobl a’r blaned yn rhan wirioneddol greiddiol ohoni? Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gall economeg ffeministaidd, cyfiawnder hinsawdd, ac egwyddorion economi llesiant lywio taith Cymru tuag at economi werdd ofalgar.
Gan ddefnyddio ymchwil newydd ar Economi Llesiant i Gymru a gweledigaeth ar gyfer Bargen Werdd Newydd yn seiliedig ar egwyddorion ffeministaidd, bydd y panel yn ail-ddychmygu economi sydd nid yn unig yn diogelu’r amgylchedd ond yn blaenoriaethu llesiant y rhai mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio fwyaf arnyn nhw – gan adael neb ar ôl.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.