Mae’r sesiwn hon yn arddangos gwaith ar y cyd rhwng tîm diogelu CGGC a’r elusen Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas Cymru, sy’n cynnig cymorth ac arweiniad cyffredinol a phwrpasol i bobl ag euogfarnau.
Ei ddiben yw helpu mudiadau i gefnogi pobl ag euogfarnau yn well tuag at wirfoddoli a chyflogaeth, a gall mynychwyr y sesiwn ddisgwyl cael cipolwg ar fideo newydd, dogfen ganllaw ddiwygiedig, yn ogystal â chyfle i ofyn cwestiynau i banel Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.