Fel yr unig Hwb yng Nghymru ar gyfer Tai dan Arweiniad y Gymuned, mae tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi Cwmpas yn gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth i gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy dan arweiniad y gymuned ledled Cymru y mae pobl leol yn berchen arnyn nhw ac/neu sy’n cael eu rheoli er budd y gymuned ehangach. Yn syml, mae hyn yn golygu cartrefi fforddiadwy a grëwyd gan fudiadau nid er elw ar lawr gwlad sy’n sensitif i’r cyd-destun ac yn ymwybodol o’u heffaith – yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
Dewch draw i ddysgu mwy!
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.