Ymunwch â ni mewn sesiwn lawn o wybodaeth lle byddwn yn archwilio pa gyfleoedd ariannu sydd ar gael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ar gyfer eich cymuned.
Bydd y sesiwn hon yn cynnig dosbarth meistr, gyda chyngor gwerthfawr, os neu pan fyddwch yn gwneud cais i’w rhaglen flaenllaw Pawb a’i Le.
Byddwch yn dysgu am flaenoriaethau presennol y rhaglen, gan gynnwys y gofyniad newydd i ymgeiswyr egluro sut y byddan nhw’n rheoli eu heffaith amgylcheddol.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.