Ymunwch â chyflenwyr dibynadwy CGGC, sef cwmni Cyfrifiaduron Pugh, mewn sesiwn ddiddorol sy’n llawn arloesedd Deallusrwydd Artiffisial a chyhoeddiadau cyffrous. Dewch draw os hoffech wneud y canlynol:
- Cael blas ar fyd Deallusrwydd Artiffisial CoPilot Microsoft, gydag apiau a chyfryngau wedi’u cynllunio i hysbysu ac ysbrydoli
- Dysgu sut mae Deallusrwydd Artiffisial CoPilot yn chwyldroi llifoedd gwaith i helpu mudiadau gwirfoddol Cymru i gyflawni eu cenhadaeth
- Dysgu sut mae CoPilot a Microsoft Teams yn cyfuno’n ddi-drafferth er mwyn cynhyrchu cyfieithiadau cywir i’r Gymraeg o fewn eiliadau
- Meistroli’r grefft o lunio ysgogiadau i gyflawni mwy gyda Deallusrwydd Artiffisial, gydag Ysgogathon byw o CoPilot.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.