Archive for Exhibitor
Sported
Mae Sported yn darparu adnoddau i rwydwaith mwyaf y DU o grwpiau cymunedol, gan gefnogi tua miliwn o bobl ifanc bob blwyddyn i oresgyn rhwystrau er mwyn gwireddu eu potensial llawn.
Trwy gryfhau effaith, cynaliadwyedd a chynhwysiant clybiau chwaraeon cymunedol llawr gwlad, mae Sported yn sicrhau bod pobl o’n holl gymunedau yn cael mynediad cyfartal at weithgarwch corfforol, ac elwa ar sut mae chwaraeon yn newid bywydau.
Trawsnewid bywydau a chymunedau trwy chwaraeon llawr gwlad.
www.sported.org.uk
FTWW: Fair Treatment for the Women of Wales
Mae FTWW yn elusen sy’n cael ei harwain gan ddefnyddwyr sy’n canolbwyntio ar degwch iechyd i fenywod a phobl a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni, gan gefnogi ac eirioli ar ran y rhai sy’n anabl neu’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor a phroblemau cysylltiedig. Trwy eirioli, cefnogaeth gan gymheiriaid a grymuso, mae FTWW yn gweithio i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau bywyd pobl yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi, o fewn lleoliadau gofal iechyd a thu hwnt. https://ftww.org.uk/cy/
St Giles Trust
Nod Ymddiriedolaeth St Giles yw helpu i dorri’r cylch o droseddu ac anfantais a chreu cymunedau mwy diogel trwy helpu unigolion i drawsnewid eu bywydau. Rydym yn defnyddio pŵer profiad bywyd i greu dyfodol gwell i bobl sy’n wynebu’r adfyd mwyaf. Rydym yn gwneud hyn oherwydd ein bod yn credu y dylai pawb gael cyfle i greu yfory gwell. https://www.stgilestrust.org.uk/
RNIB Cymru
RNIB Cymru yw’r elusen golled golwg fwyaf yng Nghymru, sy’n darparu cymorth a gwasanaethau i bobl ddall a’r rhai sy’n gweld yn rhannol, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Ein nod yw gwella bywydau a grymuso pobl i addasu i golled golwg a chadw eu hannibyniaeth. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ledled Cymru i ddarparu prosiectau, hyfforddiant, gwasanaethau a rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
rnib.org.uk/cy/nations/cymruwales/
Mudiad Meithrin
Mae gwasanaethau ‘Cymraeg i Blant’ ar gael o’r cychwyn cyntaf i helpu rhieni newydd i siarad Cymraeg â’u plentyn yn y cartref ac i’w cefnogi wrth ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.
Mae ein grwpiau wythnosol am ddim o’r enedigaeth fel Tylino babi, a Ioga babi ac Arwyddo stori a chân yn helpu rhieni i ddysgu mwy am ba hwiangerddi, llyfrau ac apiau y gellir eu cyflwyno yn y cartref – maen nhw hefyd yn gyfle i rieni gymdeithasu a chwrdd â rhieni newydd.
www.meithrin.cymru
Pugh Computers
Gyda 44 mlynedd o brofiad, mae Pugh yn grymuso mudiadau gwirfoddol drwy ddatrysiadau technoleg arloesol a dwyieithog.
Fel Darparwr Dibynadwy CGGC a Phartner Datrysiadau Gwaith Modern Microsoft gydag Arbenigedd mewn Rheoli Addasiadau a Newid, rydym yn cynnig gwasanaethau wedi’u teilwra sy’n datrys heriau’r byd go iawn.
Mae ein harbenigedd yn cwmpasu trwyddedau a chydymffurfiaeth â meddalwedd, mannau cwrdd hybrid a gwasanaethau proffesiynol – sydd wedi’i wella gyda’n Siop Glyweledol a Chaledwedd newydd sbon. Rydym ar flaen y gad o ran mabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial (AI) gydag arddangosfeydd, gweithdai a digwyddiadau ‘promptathon’ Microsoft Copilot.
Rydym yn falch o fod yn gweithio yng Nghymru, ac yma i’ch helpu i weithio’n fwy craff a gwneud mwy o effaith.
www.pugh.co.uk
Drive Wales
Mae Drive yn ddarparwr ar gyfer y rhai sy’n byw â chymorth. Rydym yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, awtistiaeth ac iechyd meddwl.
Rydym yn fudiad arloesol yn ne Cymru sy’n darparu cymorth sy’n torri tir newydd i bobl ag anableddau dysgu i fyw’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis yn eu cymunedau lleol. Gan weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, rydym yn darparu cymorth staff o ansawdd uchel a llety er mwyn i bobl fwynhau’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis, gyda’r lefel gywir o gefnogaeth i wneud hynny.
https://www.drive-wales.org.uk/
Co-production Network for Wales
Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn dwyn ynghyd gymuned o bobl sy’n credu yng ngwerthoedd cyd-gynhyrchu a chynnwys dinasyddion. Rydym yn darparu hyfforddiant, lle ar gyfer dysgu ar y cyd, a chefnogaeth bwrpasol i wella canlyniadau i bobl ledled Cymru drwy ymgorffori cyd-gynhyrchu a chynnwys dinasyddion.
https://copronet.wales/cy/