Archive for Exhibitor
Newid
Mae Newid yn hyrwyddo ymarfer digidol da ar draws y trydydd sector yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Cyflawnir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, sy’n cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn codi ymwybyddiaeth o safonau gwasanaethau digidol CGCD (Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol) ar gyfer Cymru.
Dewch draw i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael gwybodaeth, cynigion hyfforddi, a chefnogaeth
https://www.newid.cymru/
nfpResearch
Mae nfpResearch yn asiantaeth ymchwil i’r farchnad flaenllaw yn y sector nid-er-elw. Rydym yn darparu mewnwelediadau sy’n cael eu hysgogi gan ddata i elusennau a mudiadau nid-er-elw sy’n eu grymuso i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a manteisio i’r eithaf ar eu heffaith wrth helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Rydym yn cynnal ystod o waith ymchwil ledled y DU, o dracio brand ar y cyd â’r cyhoedd a gwleidyddion i ymchwilio gyda chyllidwyr a newyddiadurwyr. Gan fabwysiadu ystod o fethodolegau ymchwil, rydym yn bwriadu cefnogi elusennau i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth, gan eu helpu i lywio drwy heriau a manteisio i’r eithaf ar eu heffeithiolrwydd mewn tirwedd elusennol sy’n esblygu.
https://nfpresearch.com/
Outcomes Star
Rydym yn cefnogi mudiadau i ymgorffori’r Outcomes Star yn eu gwaith a’i ddefnyddio’n dda! Mae Outcomes Star yn ddull sy’n seiliedig ar ymchwil, sy’n canolbwyntio ar y person ar gyfer tywys unigolion a’r bobl sy’n eu cefnogi ar hyd taith o newid. Mae’r dull yn integreiddio mesur canlyniadau o fewn cefnogaeth un-i-un, gan ei gwneud hi’n haws i’r rhai sy’n cael eu cefnogi a’r rhai sy’n cefnogi weld, deall a dathlu pob carreg filltir ar eu llwybr cynnydd.
www.outcomesstar.org.uk
Mudiad meithrin
Mae gwasanaethau ‘Cymraeg i Blant’ ar gael o’r cychwyn cyntaf i helpu rhieni newydd i siarad Cymraeg â’u plentyn yn y cartref ac i’w cefnogi wrth ddewis gofal plant ac addysg Gymraeg.
Mae ein grwpiau wythnosol am ddim o’r enedigaeth fel Tylino babi, a Ioga babi ac Arwyddo stori a chân yn helpu rhieni i ddysgu mwy am ba hwiangerddi, llyfrau ac apiau y gellir eu cyflwyno yn y cartref – maen nhw hefyd yn gyfle i rieni gymdeithasu a chwrdd â rhieni newydd.
Mentrau Iaith Cymru
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn cefnogi’r rhwydwaith o ‘Fentrau Iaith’ trwy amryw o weithgareddau.
Ein prif nod yw cefnogi’r Mentrau Iaith:
- Darparu cyfleoedd i rannu gwybodaeth, syniadau a chydweithio drwy amrywiaeth o gyfarfodydd, cynadleddau a hyfforddiant.
- Dylanwadu er budd y Gymraeg, trwy ymateb i ymgynghoriadau ar eu rhan.
- Datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol.
- Cynnig cefnogaeth ac arweiniad ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisïau mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith.
Mae hyrwyddo gweithgareddau’r Mentrau Iaith a chreu ymgyrchoedd cenedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan fawr o waith MIC.
National Lottery Heritage Fund
Gydag arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau o rhwng £10,000 a £10miliwn i gefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â’u treftadaeth. Rydym hefyd yn dosbarthu arian ar ran llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig.
Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol rydych chi’n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Mae rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl at ei gilydd, yn ysbrydoli balchder mewn lle ac yn cefnogi economïau lleol.
Ers 1994, rydym wedi dosbarthu dros £9.2 biliwn i fwy na 52,000 o brosiectau ledled y DU.
https://www.heritagefund.org.uk/
National Churches Trust
Cenhadaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yw gweld casgliad gwych Cymru o eglwysi, capeli a thai cyfarfod hanesyddol yn parhau’n agored, yn cael eu defnyddio ac mewn cyflwr da. Rydym yn falch o gefnogi’r adeiladau rhyfeddol, pwysig hyn, a’r bobl sy’n dod â nhw’n fyw. Maen nhw’n gonglfeini diwylliant Cymru, asedau cymunedol gwerthfawr sy’n darparu gweithgareddau hanfodol a phrofiad allweddol i ymwelwyr.
Rydym yn rhoi arweiniad, cymorth swyddogion o bell ac yn bersonol, rhaglen grantiau, mynediad at hyfforddiant, mewnbwn twristiaeth, ynghyd â mewnwelediad menter a chynhyrchu incwm i sicrhau bod y mannau anhygoel hyn yn parhau i wasanaethu eu cymunedau ac yn diogelu treftadaeth y genedl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
www.nationalchurchestrust.org/get-support/cherish-support-scotland-wales-cymru-and-north-west-england/get-support-wales-cymru
National Lottery Community Fund
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, credwn mai cymuned yw’r man cychwyn. Dyna pwy yr ydym yn ei gwasanaethu, a dyna lle y byddwch yn dod o hyd i ni, ym mhob cwr o’r wlad. Mae ein grantiau’n ceisio rhoi’r pŵer i bobl adeiladu a chryfhau eu cymuned, drwy eu cefnogi i ddod ynghyd a gwella bywydau.
Rydym yn cefnogi cymunedau ledled Cymru i ffynnu drwy ddyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae ein harian yn cefnogi amrywiaeth eang o fudiadau – mawr a bach – i gyflawni gweithgareddau sy’n trawsnewid bywydau pobl ac yn helpu cymunedau.
https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh
Mencap Cymru
Mae Mencap Cymru eisiau i Gymru fod y lle gorau i bobl ag anabledd dysgu fyw ynddo.
Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn ymwneud â sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal, yn cael eu cynnwys a bod eu llais yn cael ei glywed.
Rydym yn cynnal Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan gynnwys Gwyliau Banc.
https://wales.mencap.org.uk/