Mewn byd delfrydol, dylai pawb fod â chartref lle gallant ffynnu ynddo. Ond nid yw’r byd yn ddelfrydol, a dyna pam rydym ni yma.
Dechreuon ni fel Hafan Cymru dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, i helpu pobl sy’n byw mewn ofn o gam-drin domestig. Newidiodd yr enw i Stori yn 2023 oherwydd yr oeddem yn teimlo ei fod yn dweud mwy amdanom ni.
Rydym yn gymdeithas dai gofrestredig sy’n darparu cymorth arbenigol i unigolion a theuluoedd mewn argyfwng, gan gynnwys VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) a chyrsiau hyfforddi mewn pynciau sy’n gysylltiedig ag Iechyd Meddwl a gwersi perthynas iach ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.