Rydym ni yma i bobl sy’n cael eu hunain mewn sefyllfaoedd sy’n ei gwneud hi’n anodd byw’n ddiogel. Rydym yn gweithredu contractau cymorth sy’n ymwneud â thai ledled Cymru, ac yn helpu ystod eang o bobl i gyrraedd eu nodau a gweithio tuag at annibyniaeth. Dros y 35 mlynedd ddiwethaf, rydym wedi cynnig gwasanaethau cymorth sy’n addas i bobl ifanc a phlant, yn ogystal â rhai i bobl mewn argyfwng, gan gynnwys teuluoedd, pobl sy’n wynebu cam-drin domestig, problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a chyn-droseddwyr.