Gofod3
Gofod3


CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Mae pobl Cymru bob amser wedi dod at ei gilydd o’u gwirfodd, nid i wneud arian nac am fod y gyfraith yn dweud bod rhaid iddynt, ond am eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth. Rydym am sicrhau ein bod ni gyd yn barod i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cymdeithas. I wneud hyn mae angen mudiadau gwirfoddol nawr yn fwy nag erioed. Ond ni all neb wneud hynny ar ei ben ei hun. Mae CGGC yma fel y gallwn ni gyd wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

https://wcva.cymru/cy/hafan/

Digwyddiadau gan y mudiad hwn

Rôl yr unigolyn diogelu dynodedig

Mer 5 Meh 2024, 4:00pm

Diogelu
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar unigolion diogelu dynodedig – pwy ydynt a beth maen nhw’n ei wneud? Mewnbwn wedi’i baratoi fydd yr hanner awr gyntaf, gydag amser ar gyfer cwestiynau a rhwydweithio ar ôl hynny. www.wcva.cymru/diogelu

Sgwrs rhwng comisiynwyr: llunio’r sector gwirfoddol yng Nghymru

Mer 5 Meh 2024, 2:30pm

Aeweinyddiaeth
Polisi
Y Gymraeg
Yn aml, mae ein comisiynwyr yng Nghymru yn chwarae rhan ddynamig mewn tynnu sylw at y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau. Mae llais pob un ohonynt yn gyrru’r sgyrsiau hyn yn eu blaen, boed hynny drwy waith craffu, syniadau arloesol neu ddatrysiadau ymarferol. Mae hwn yn ddigwyddiad prin ac arbennig a fydd yn dod â Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Heléna Herklots CBE, y Comisiynydd Pobl Hŷn, Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg ac Sara Jermin, Dirprwy Gomisiynydd, Comisiynydd Plant Cymru, ynghyd mewn sgwrs, gan gynnig cyfle i fynychwyr gofod3 ofyn cwestiynau am eu safbwyntiau a’u blaenoriaethau unigryw nhw ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Peidiwch â cholli’r E2digwyddiad tyngedfennol hwn a fydd yn deffro’ch meddwl ac o bosibl yn rhoi’r cyfle i chi ymhél yn uniongyrchol â’r arweinyddion dylanwadol hyn.

Troi’r dudalen gyda Dr Helen Stephenson CBE: ei mewnwelediadau a’i gweledigaeth

Mer 5 Meh 2024, 4:00pm

Llywodraethu
Polisi
Dr Helen Stephenson CBE yw’r Prif Weithredwr sydd wedi bod gyda’r Comisiwn Elusennau hiraf. Mae Dr Stephenson, sydd wedi bod wrth y llyw am dros saith blynedd, wedi llywio drwy gymhlethdodau’r sector gwirfoddol mewn cyfnodau digyffelyb a heriol, gan gynnwys pandemig COVID-19. Wrth iddi baratoi i drosglwyddo’r awenau yn ddiweddarach yr haf hwn, bydd Dr Stephenson yn rhannu ei mewnwelediadau, ei myfyrdodau a’i dyheadau am ddyfodol y Comisiwn a’r dirwedd elusennol ehangach. Dyma eich cyfle i glywed gan arweinydd sydd wedi gadael nod parhaol ar y sector gwirfoddol gyda’i gwasanaeth ymroddgar. Bydd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr newydd CGGC yn ymuno â Helen am sgwrs ac i rannu myfyrdodau o’r diwrnod.

Diogelu eich gwirfoddolwyr

Mer 5 Meh 2024, 11:00am

Diogelu
Gwirfoddoli
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar eich gwirfoddolwyr ac yn trafod arferion gorau wrth ddiogelu a recriwtio. Mewnbwn wedi’i baratoi fydd yr hanner awr gyntaf, gydag amser ar gyfer cwestiynau a rhwydweithio ar ôl hynny. www.wcva.cymru/diogelu

Hyfforddiant ar ddiogelu

Mer 5 Meh 2024, 12:30pm

Diogelu
Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar beth mae’r canllawiau cenedlaethol diweddar mewn safonau hyfforddiant diogelu yn ei olygu i’r sector gwirfoddol? Mewnbwn wedi’i baratoi fydd yr hanner awr gyntaf, gydag amser ar gyfer cwestiynau a rhwydweithio ar ôl hynny. www.wcva.cymru/diogelu

Polisïau diogelu

Mer 5 Meh 2024, 2:30pm

Diogelu
Bydd y sesiwn hon yn amlygu prif elfennau polisi diogelu o safon. Mewnbwn wedi’i baratoi fydd yr hanner awr gyntaf, gydag amser ar gyfer cwestiynau a rhwydweithio ar ôl hynny. www.wcva.cymru/diogelu

Gwerth a gwerthoedd y sector gwirfoddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Mer 5 Meh 2024, 12:30pm

Iechyd a gofal cymdeithasol
Mae hon yn sesiwn a gyflwynir gan Brosiect Iechyd a Gofal CGGC. Bydd yr awdur, Richard Newton, yn crynhoi ei adroddiad Comisiwn Bevan: ‘Gwerth a gwerthoedd y trydydd sector: cydweithio â’r sector statudol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan drafodaeth banel ar ei brif ganfyddiadau. Bydd hyn yn cynnwys rôl hanfodol y sector gwirfoddol mewn gwella, ehangu ac ategu’r ddarpariaeth statudol o iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig ei werthoedd a’i gryfderau, gan gynnwys budd cyhoeddus a gwerth cymdeithasol. https://wcva.cymru/cy/projects/prosiect-iechyd-a-gofal-cggc/

Iechyd a lles yng Nghymru – a ydyn ni’n bwysig?

Mer 5 Meh 2024, 11:00am

Iechyd a gofal cymdeithasol
Wedi’i chyflwyno gan Brosiect Iechyd a Gofal CGGC, mae’r sesiwn hon yn seiliedig ar eu papur ymchwil: ‘Pam mae’r trydydd sector yn bwysig i iechyd a lles yng Nghymru’, a gomisiynwyd ar ôl adroddiad Comisiwn Bevan: ‘Gwerth a gwerthoedd y trydydd sector: cydweithio â’r sector statudol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru’. Ar ôl crynodeb byr gan awdur yr adroddiad, Richard Newton, bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, yn cadeirio trafodaeth banel gyda Kate Williams, Cymorth Canser Macmillan; Chris Johnes, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau; a Lyndsey Campbell-Williams, Medrwn Môn. https://wcva.cymru/cy/projects/prosiect-iechyd-a-gofal-cggc/

Ehangu eich rhwydweithiau: pecyn cymorth ymarferol

Mer 5 Meh 2024, 11:00am

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Dyma sesiwn gan brosiect ‘Catalydd Cymru – Ehangu Gorwelion’ CGGC. Mae ehangu gorwelion mudiadau’n hanfodol os ydynt eisiau ehangu eu rhwydweithiau a’u cyrhaeddiad er mwyn bod yn fwy cynhwysol a hygyrch i gymunedau amrywiol. Yn ei dro, mae hyn hefyd yn cyfrannu at fagu gwydnwch gwell. Mae’r sesiwn hon yn cynnig cyfle i glywed am y gwersi ar gynhwysiant a ddysgwyd gan fudiadau treftadaeth a gymerodd ran ym mhrosiect Catalydd Cymru. Bydd yn cynnwys cyflwyniad i’r pecyn cymorth ‘ehangu eich rhwydweithiau’ dwyieithog sydd newydd ei ddatblygu a chyfle i rannu dulliau gweithredu ymarferol y gallech eu mabwysiadu yn eich mudiad eich hun. https://wcva.cymru/cy/projects/catalydd-cymru-ehangu-gorwelion/

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu am gyd-gynhyrchu: Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Mer 5 Meh 2024, 1:00am

Cyd-gynhyrchu
Gwirfoddoli
A ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr? Dewch i’r sesiwn ddiddorol hon i ddysgu ffyrdd newydd o gyd-gynhyrchu a gwella eich arferion wrth gefnogi gwirfoddolwyr, yn enwedig os nad oes gennych chi lawer o aelodau staff. Mae’r sesiwn hon yn dangos effaith Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG), sy’n hybu arferion gorau ar draws y sector gwirfoddol, gan leihau dyblygu. Yn y sesiwn hon, byddwch yn clywed gan dri mudiad sydd wedi derbyn un o Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru, gan gynnwys Foothold a fydd yn siarad am eu taith gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc. Mae hwn yn gyfle i ymwreiddio arferion gorau yn eich mudiad, gan arbed amser gwerthfawr i chi. https://wcva.cymru/cy/cyllid/cgg/

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu am bartneriaeth: Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Mer 5 Meh 2024, 2:30pm

Cyd-gynhyrchu
Gwirfoddoli
Yn y sesiwn hon, bydd Cymdeithas Eryri, Sported a Rhwydwaith Gweithredu Dros yr Hinsawdd Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu fel derbynyddion Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG). Bydd Cymdeithas Eryri yn siarad am ei phartneriaeth gydweithredol â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored i leihau dyblygu, a chanoli gwaith amgylcheddol yn yr ardal leol, gan gynnwys cydlynu gwirfoddolwyr. Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu am y dulliau gorau o fynd ati i greu partneriaethau cydweithredol yng Nghymru, ymwreiddio arferion gorau yn eich mudiad, ac arbed amser gwerthfawr i chi. https://wcva.cymru/cy/cyllid/cgg/

Llwyddo i gynhyrchu incwm amrywiol

Mer 5 Meh 2024, 11:00am

Cyllido
Mae sicrhau ffrwd incwm amrywiol yn cynyddu gwydnwch mudiad, a dyma pam y mae’n bwysicach nag erioed bod gan bobl sy’n gweithio gyda’r sector gwirfoddol y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i adnabod a sicrhau cyllid cynaliadwy. Yn y sesiwn hon, byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan elusen fechan am eu taith i amrywio eu hincwm, a fydd yn cynnwys cyfle i ofyn cwestiynau ac edrych ar eich gobeithion a’ch heriau. Magwch hyder yn eich gallu i fynd ati’n llwyddiannus i amrywio incwm eich mudiad yn gywir fel y gallwch barhau â’r gwaith gwych rydych chi’n ei wneud. https://wcva.cymru/cy/hafan/

Sefydlu rhwydwaith codi arian

Mer 5 Meh 2024, 4:00pm

Codi arian
Mae sicrhau cyllid cynaliadwy yn her gyson i fudiadau yn y sector gwirfoddol. Dewch i’r sesiwn gefnogol hon, lle gallwch ymuno ag eraill i ddadansoddi’r dasg hynod anodd o godi arian, ac yn benodol, y rôl o dyfu a datblygu rhwydwaith codi arian. Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan arweinydd elusen fechan am sut maen nhw wedi sefydlu rhwydwaith cymorth cyllido a sut mae hwn yn eu helpu i fynd ati i godi arian. https://wcva.cymru/cy/hafan/
Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh