CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Mae pobl Cymru bob amser wedi dod at ei gilydd o’u gwirfodd, nid i wneud arian nac am fod y gyfraith yn dweud bod rhaid iddynt, ond am eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth. Rydym am sicrhau ein bod ni gyd yn barod i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cymdeithas. I wneud hyn mae angen mudiadau gwirfoddol nawr yn fwy nag erioed. Ond ni all neb wneud hynny ar ei ben ei hun. Mae CGGC yma fel y gallwn ni gyd wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.