We are exhibiting this year at gofod3, find us in the marketplace.
Rydym yn bwrw ymlaen â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o greu rhwydwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel, diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch y mae pobl Cymru yn ymfalchïo ynddo. Cawsom ein sefydlu i newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, drwy wneud teithio cynaliadwy yn ddewis naturiol ac i helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
Rydyn ni eisiau i bobl ymddiried ynddo ac ymrwymo i newid eu hymddygiad, teithio’n fwy cynaliadwy a gwneud eu rhan dros ein dyfodol ni i gyd. Bydd y rhwydwaith trafnidiaeth amlfoddol, integredig rydyn ni’n ei greu yn galluogi pobl i wneud hyn.