Hygyrchedd a chynhwysiant yn gofod3
Mae'r digwyddiad yma i bawb, rydym yn gwneud mwy na derbyn gwahaniaeth, rydym yn ei ddathlu ac yn ei gefnogi. Rydyn ni eisiau i bawb, waeth beth yw eu hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, anghenion beichiogrwydd, oedran, statws priodasol neu hunaniaeth rhywedd, deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys ym mhrofiad gofod3. Ni fydd unrhyw ymddygiad camdriniol yn cael ei ganiatáu yn y digwyddiad.
Rydyn ni’n credu bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol ar gyfer cymdeithas gref a bywiog. Mae gofod3 i bawb ac isod mae rhestr o bethau mae gennym ni yn eu lle i sicrhau eich bod chi yn cael profiad croesawgar, diogel a saff yn gofod3.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes ffyrdd eraill y gallwn ni eich cefnogi mewn digwyddiadau yn y dyfodol, rhowch wybod i ni. Gallwch siarad â ni ar 0300 111 0124 neu gallwch gysylltu â Wendy Gilbert [email protected].
YN Y LLEOLIAD
Mynediad a chyfleusterau
- Mae lleoedd parcio am ddim a mannau parcio wedi’u dyrannu i bobl anabl.
- Mae’r lleoliad yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
- Mae toiledau hygyrch ar gael ar bob llawr.
- Mae system dolen glyw ar gael yn theatr gofod3.
- Mae seddau ar gael ar gyfer pob gweithdy, a nifer cyfyngedig o seddau yn ardal y farchnad.
- Mae croeso i anifeiliaid gwasanaethu yn y digwyddiad.
Iaith a chyfieithu ar y pryd
- Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd Cymraeg yn cael ei ddarparu yn y digwyddiad. Bydd adnoddau’n ddwyieithog.
- Os bydd angen deunyddiau o’r gynhadledd ar fformatau eraill, e.e. Braille, rhowch wybod i ni pan fyddwch chi’n cofrestru a byddwn yn fwy na bodlon trefnu hyn i chi.
- Bydd gennym gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn gofod3. Gan fod gymaint o ddigwyddiadau yn digwydd ar y diwrnod, rhowch wybod i ni os bydd angen cyfieithydd arnoch pan fyddwch chi’n bwcio fel y gallwn ni sicrhau bod gennym gyfieithu ar y pryd yn ei le i bawb sydd ei angen.
Ystafell weddïo a mannau tawel
- Mae ystafell weddïo yn cael ei darparu yn y lleoliad.
- Mae ystafell dawel ar wahân yn cael ei darparu ar gyfer unrhyw un sydd angen ychydig o dawelwch a lle i fyfyrio neu angen ychydig o breifatrwydd i fwydo baban.
Alergeddau a gofynion deietegol
- Bydd te, coffi a dŵr am ddim yn gofod3.
- Bydd bwyd ar gael i’w brynu, gan gynnwys opsiwn llysieuol/figan, ac mae nifer o fannau gwerthu bwyd ger y lleoliad. Os oes gennych unrhyw alergeddau neu ofynion deietegol penodol, rhowch wybod i ni – [email protected]. Mae hefyd croeso i chi ddod â’ch bwyd eich hun.
Eich rhagenwau
- I’r rheini a hoffai, byddwn yn annog pobl i ychwanegu eu rhagenwau dewisol at eu bathodyn enw ar y diwrnod.
Argyfyngau neu gymorth
- Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch yn y digwyddiad, bydd staff CGGC ar gael i’ch cefnogi a byddwch chi’n gallu eu hadnabod yn hawdd o’r crysau-t gofod3 coch a’r laniardiau y byddant yn eu gwisgo.
- Mewn argyfwng, rhowch wybod i staff CGGC neu staff Stadiwm Dinas Caerdydd a fydd yn cysylltu â swyddogion cymorth cyntaf neu’r gwasanaethau brys.
EIN GWEFAN
Mae’r wefan hon wedi’i dylunio i fod mor hygyrch a hawdd ei defnyddio â phosibl. Rhowch wybod i ni os oes angen gwybodaeth ar fformat gwahanol.