Digwyddiadau Cysylltiedig
Yr hyn rydym wedi’i ddysgu am gyd-gynhyrchu: Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru
Mer 5 Meh 2024, 1:00am
Cyd-gynhyrchu
Gwirfoddoli
A ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr? Dewch i’r sesiwn ddiddorol hon i ddysgu ffyrdd newydd o gyd-gynhyrchu a gwella eich arferion wrth gefnogi gwirfoddolwyr, yn enwedig os nad oes gennych chi lawer o aelodau staff. Mae’r sesiwn hon yn dangos effaith Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG), sy’n hybu arferion gorau ar draws y sector gwirfoddol, gan leihau dyblygu.
Yn y sesiwn hon, byddwch yn clywed gan dri mudiad sydd wedi derbyn un o Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru, gan gynnwys Foothold a fydd yn siarad am eu taith gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc. Mae hwn yn gyfle i ymwreiddio arferion gorau yn eich mudiad, gan arbed amser gwerthfawr i chi.
https://wcva.cymru/cy/cyllid/cgg/
Yr hyn rydym wedi’i ddysgu am bartneriaeth: Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru
Mer 5 Meh 2024, 2:30pm
Cyd-gynhyrchu
Gwirfoddoli
Yn y sesiwn hon, bydd Cymdeithas Eryri, Sported a Rhwydwaith Gweithredu Dros yr Hinsawdd Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu fel derbynyddion Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG). Bydd Cymdeithas Eryri yn siarad am ei phartneriaeth gydweithredol â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored i leihau dyblygu, a chanoli gwaith amgylcheddol yn yr ardal leol, gan gynnwys cydlynu gwirfoddolwyr.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu am y dulliau gorau o fynd ati i greu partneriaethau cydweithredol yng Nghymru, ymwreiddio arferion gorau yn eich mudiad, ac arbed amser gwerthfawr i chi.
https://wcva.cymru/cy/cyllid/cgg/
Adeiladu cymunedau a galluogi llwybrau gwirfoddoli drwy Tempo Time Credits
Mer 5 Meh 2024, 12:30pm
Gwirfoddoli
Dewch i’r sesiwn hamddenol hon i gael gwybod sut gallai Tempo Time Credits fod yn fuddiol i chi, eich gwaith a’ch gwirfoddolwyr.
Pwy yw Tempo a beth yw Tempo Time Credits? Beth yw’r buddion i fudiadau, grwpiau a gwirfoddolwyr a sut gallant gefnogi llwybrau i wirfoddoli? Dysgwch sut y gellir defnyddio credydau amser fel adnodd ar gyfer ymgysylltu, mapio asedau a chyd-gynhyrchu yn y sesiwn ddiddorol hon.
https://wearetempo.org/w_home/