Gofod3
Gofod3


Mae Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig arweiniad a chymorth i fudiadau y sector gwirfoddol ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg. Trwy gymorth un-i-un, gallwn eich cynghori ar sut i gynyddu’r Gymraeg ar draws eich sefydliad gan ddefnyddio ein Cynllun Datblygu’r Gymraeg. O gyfryngau cymdeithasol, dylunio dwyieithog, creu arwyddion dwyieithog, materion recriwtio a chefnogi staff, gallwn gynnig cyngor ar bob agwedd o ddefnyddio’r Gymraeg yn eich sefydliad.

https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/busnesau-ac-elusennau

Digwyddiadau gan y mudiad hwn

Defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol

Mer 5 Meh 2024, 12:30pm

Cyfathrebu
Y Gymraeg
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg (darperir cyfieithu ar y pryd). Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno canllaw newydd ar ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol – pwnc sy’n cael ei godi’n gyson gan sefydliadau yn y sector gwirfoddol. Pwrpas y canllaw yw cynnig arweiniad ac atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin, gan gynnwys enghreifftiau go iawn a phrofiadau eraill. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y canllaw a chynyddu defnydd eich sefydliad o’r Gymraeg mewn ffordd ymarferol. https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/busnesau-ac-elusennau

Defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol

Mer 5 Meh 2024, 2:30pm

Cyfathrebu
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg (darperir cyfieithu ar y pryd) Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno canllaw newydd ar ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol – pwnc sy’n cael ei godi’n gyson gan sefydliadau yn y sector gwirfoddol. Pwrpas y canllaw yw cynnig arweiniad ac atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin, gan gynnwys enghreifftiau go iawn a phrofiadau eraill. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y canllaw a chynyddu defnydd eich sefydliad o’r Gymraeg mewn ffordd ymarferol. https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/busnesau-ac-elusennau
Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh