Gofod3
Gofod3


Wedi’i harwain gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), mae Amrywiaeth Chwaraeon Cymru yn fenter a sefydlwyd i gynyddu nifer y bobl o gymunedau ethnig leiafrifol sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ledled Cymru.

Cafodd y prosiect, a alwyd yn ‘Chwaraeon BME Cymru’ cyn hyn, ei sefydlu yn 2016 i gefnogi dull cynaliadwy o fynd ati i ymdrin â chyfranogiad mewn chwaraeon. Mae ganddo dri phrif flaenoriaeth:

Mae Sport Diversity Cymru yn cynnig hyfforddiant ac arweiniad am ddim i’r sector chwaraeon er mwyn cynyddu gwybodaeth, ymwybyddiaeth o’r rhwystrau a sut i ymgysylltu’n effeithiol â grwpiau ethnig amrywiol gwahanol. Canolbwyntir ar sut i wneud clybiau chwaraeon yn fwy croesawgar a chynhwysol i bobl o gefndiroedd ethnig a chrefyddol amrywiol.

Mae hefyd yn cydweithio â phartneriaid eraill o’r byd chwaraeon a phartneriaid cenedlaethol i drechu anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn chwaraeon a hwyluso gwaith ymchwil a mewnwelediadau a rennir gyda’r sector.

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh