Rydym yn cynnig cyfle i bobl ifanc gael hwyl, gwneud ffrindiau, gwella eu hunan-barch a magu eu hyder, gan ennill sgiliau a phriodoleddau hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd ar yr un pryd, fel gwydnwch, datrys problemau, cyfathrebu, gweithio mewn tîm ac ysgogiad. Gyda’i gilydd, mae hyn yn gwella CVs a cheisiadau deiliaid y Wobr ar gyfer mynd i’r brifysgol neu gael swydd, a chaiff eu sgiliau ‘barod am waith’ eu cydnabod yn aml gan gyflogwyr blaenllaw.