Gofod3
Gofod3

Cynnwys cymunedau ar gyfer cydlyniant cymdeithasol

Mer 2 Gorff 2025, 10:00am

Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds

Mae hon yn sesiwn sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds.

Rydyn ni i gyd eisiau cymdeithas ac economi sy’n gweithio i bawb. Mae gan y sector gwirfoddol a chymdeithas sifil, yn fwy cyffredinol, ran allweddol i’w chwarae i wireddu hyn. Ymunwch â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds sy’n rhannu gweledigaeth o greu cymunedau cydlynol, teg, a ffyniannus, er mwyn datblygu’r sgwrs ynghylch rôl mudiadau cymunedol wrth sicrhau llesiant i bawb.

Bydd y drafodaeth bord gron hon yn archwilio cwestiynau hanfodol fel:

  • Sut gallwn ni gynyddu ymgysylltiad dinasyddion a’u hymddiriedaeth yn y broses o wneud penderfyniadau yn ystod cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol? Sut mae cydlyniant cymdeithasol yn cyd-fynd â hyn?
  • Sut gallwn ni sicrhau bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau wir yn gwrando ar leisiau a phrofiadau pobl sydd wedi’u hymyleiddio neu sydd mewn amgylchiadau anodd ac yn eu gwerthfawrogi?
  • Beth yw rôl cydweithio traws-sectorol wrth greu cyfleoedd i drafod?

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Sefydliad Banc Lloyds
Dyddiad
Mer 2 Gorff 2025, 10:00am
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Ystafell

Cofrestru

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marketing and statistics

Addasu eich dewisiadau

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
^
cyWelsh