Gofod3
Gofod3

Tuag at greu Rhwydwaith Cymru ar gyfer Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm

CGGC

Mae Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Cynrychiolwyr Cynghorau Gwirfoddol Sirol’ neu ‘Gynrychiolwyr Trydydd Sector’ fel arfer, yn cymryd rhan mewn Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ledled Cymru, ond eto amser gwirfoddol yw hwn i raddau helaeth, gyda dim ond ychydig o gymorth i’r rhai sy’n ymgymryd â’r rôl. Mae hyn yn golygu nad oes rhwydwaith sefydledig i gynrychiolwyr gysylltu a rhannu eu profiadau, eu heriau a’r arferion gorau o’u meysydd priodol.

Mae’r sesiwn hon yn gwahodd Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am sgwrs gychwynnol gyda’r bwriad o sefydlu rhwydwaith genedlaethol. Ei nod yw llunio agenda ddrafft ar gyfer cyfarfod cyntaf Cymru gyfan o Gynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn y dyfodol.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
CGGC
Dyddiad
Mer 2 Gorff 2025, 3:00pm
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Ystafell

Cofrestru

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marketing and statistics

Addasu eich dewisiadau

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
^
cyWelsh