Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Tuag at greu Rhwydwaith Cymru ar gyfer Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Mer 2 Gorff 2025, 4:00pm

Iechyd a gofal cymdeithasol
Mae Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Cynrychiolwyr Cynghorau Gwirfoddol Sirol’ neu ‘Gynrychiolwyr Trydydd Sector’ fel arfer, yn cymryd rhan mewn Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ledled Cymru, ond eto amser gwirfoddol yw hwn i raddau helaeth, gyda dim ond ychydig o gymorth i’r rhai sy’n ymgymryd â’r rôl. Mae hyn yn golygu nad oes rhwydwaith sefydledig i gynrychiolwyr gysylltu a rhannu eu profiadau, eu heriau a’r arferion gorau o’u meysydd priodol. Mae’r sesiwn hon yn gwahodd Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am sgwrs gychwynnol gyda’r bwriad o sefydlu rhwydwaith genedlaethol. Ei nod yw llunio agenda ddrafft ar gyfer cyfarfod cyntaf Cymru gyfan o Gynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn y dyfodol.

Rôl yr Archwiliwr Annibynnol wrth atal twyll

Mer 2 Gorff 2025, 2:30pm

Llywodraethu
Mae twyllwyr yn dod yn fwyfwy soffistigedig, ac mae cyflwyno Deallusrwydd Artiffisial i’r cymysgedd yn golygu bod craffu annibynnol ar ddogfennau llywodraethu, cofnodion a gwybodaeth ariannol wedi dod yn hollbwysig. Mae’r sesiwn hynod ddiddorol hon yn esbonio’r hyn mae Archwilwyr Annibynnol yn ei wneud, pam y gallech fod eisiau hyfforddi fel un, a sut maen nhw’n gweithredu i ganfod twyll.

Gwobr Dug Caeredin: Effaith a chyfle

Mer 2 Gorff 2025, 11:00am

Gwirfoddoli
Mae hon yn sesiwn sy’n cynnig cyfle i fudiadau ieuenctid y sector gwirfoddol ddysgu mwy am Wobr Dug Caeredin. Bydd mynychwyr yn gadael y sesiwn gyda gwell dealltwriaeth o’r canlynol: yr effaith gadarnhaol y gall y Wobr ei chael ar bobl ifanc sy’n cymryd rhan sut caiff y rhaglen ei chyflwyno sut i ddod yn bartner cyflawni Gwobr Dug Caeredin.
Gofod3
^
cyWelsh