Beth yw gofod3?
gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae gofod yn golygu ‘lle’ yn y Gymraeg a gofod3 yw ein gofod ni ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Ymunwch â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, paneli trafod a gweithdai. Byddwn hefyd yn darparu digon o gyfle i rwydweithio â'ch cyfoedion o bob cwr o'r sector gwirfoddol yn ogystal â chwrdd â sgwrsio â chydweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn ein marchnad brysur.