Mae cwcis wedi'u Hanalluogi
Marchnata
Addasu eich dewisiadauMae cynnal digwyddiad yn gofod3 yn ffordd gost-effeithiol o gyrraedd cynulleidfa amrywiol. Waeth a ydych chi’n gobeithio trefnu trafodaeth banel, gweithdy, grŵp ffocws, prif anerchiad neu lansio ymgyrch, dyma’r gofod i chi.
Rydym eisiau sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar gofod3 a bod y digwyddiad nid yn unig yn bodloni eich disgwyliadau, ond yn mynd y tu hwnt iddynt.
Rydyn ni’n chwilio am ddigwyddiadau a fydd yn annog ffyrdd gwahanol o weithio, yn ennyn trafodaeth ac yn ysgogi newid, felly yn hytrach na dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin, rydyn ni’n chwilio am ddigwyddiadau a fydd yn cyfrannu at wneud gofod3 y gorau y gall fod i ymwelwyr.
Codir tâl yr awr ar ofod ar gyfer digwyddiad, ond rydyn ni’n hyblyg o ran hyd digwyddiadau. Os oes angen slot hirach arnoch neu os hoffech ychwanegu opsiynau arlwyo, cysylltwch â ni ar 0300 111 0124 neu [email protected] i drafod cyn cyflwyno eich ffurflen gais.
I wneud cais am ofod ar gyfer digwyddiad yn gofod3, llenwch y cais erbyn 12 Chwefror 2026. (Noder: ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried).
Byddwn yn eich hysbysu o ganlyniad eich cais yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 17 Mawrth 2025.Er y byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddyrannu’r ystafell fwyaf addas i’ch digwyddiad o ran maint a gosodiad, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu bodloni pob cais oherwydd y mannau cyfyngedig sydd ar gael.
Bydd pawb sydd yn bwcio gofod ar gyfer digwyddiad yn cael:
- sylw yn yr arweinlyfr digwyddiadau yn hysbysebu digwyddiad eich mudiad
- enw eich mudiad a dolen gyswllt ar wefan gofod3 a chyhoeddusrwydd cyffredinol ar gyfer eich digwyddiad
- cyfieithu ar y pryd (Cymraeg/Saesneg) os oes angen
- pecyn AV llawn, gan gynnwys gliniadur a sgrin
- cymorth gyda chofrestru a gyda rheoli’r rhestr gyfranogwyr ar y dydd
Ystafelloedd
- Bach – hyd at 12. Gwych ar gyfer sesiynau mwy ymarferol ac ennyn sgyrsiau. Gweithio’n dda ar gyfer grwpiau ffocws a gweithdai
- Canolig – 25 - 30. Gwych ar gyfer trafodaethau panel, neu ddiweddariadau polisi arbenigol
- Mawr – 40 - 50. Gwych ar gyfer trafodaethau panel
Dod o bellach i ffwrdd?
Noder: Bydd Caerdydd yn brysur tu hwnt yn ystod wythnos gofod3, gyda llawer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y ddinas. I wneud eich taith mor llyfn â phosibl, argymhellwn yn gryf eich bod yn archebu eich llety’n gynnar.
Ffioedd (a godir fesul awr)
Mae’r ffioedd ar gyfer lleoedd arddangos yn seiliedig ar faint yr ystafell. Mae capasiti’r ystafelloedd yn amrywio o fannau llai i tua 10 cynrychiolydd i ystafelloedd mwy i hyd at 40-50 o gynrychiolwyr.
Bartner sector gwirfoddol
- Ystafell fach: £220 + TAW
- Ystafell ganolig: £270 + TAW
- Ystafelloedd mwy o faint: Rhwng £315 - £360 + TAW
Ddim yn siŵr a ydych chi'n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
Partner ymgysylltiedig
- Ystafell fach: £449 +TAW
- Ystafell ganolig: £481 + TAW
- Ystafelloedd mwy o faint: Rhwng £560- £664 + TAW
Eraill
- Ystafell fach: £473 + TAW
- Ystafell ganolig: £506 + TAW
- Ystafelloedd mwy o faint: Rhwng £589 - £699 + TAW
Archebwch eich gofod digwyddiad (mae archebion bellach ar gau)
Cysylltwch â’r tîm digwyddiadau gydag unrhyw gwestiynau: [email protected]
Cyfleoedd noddi
Mae gofod3 yn ddigwyddiad unigryw a fydd yn gweld ymwelwyr o’r sector gwirfoddol yn dod ynghyd i siarad am y materion sydd o bennaf bwys iddynt.
Mae hwn yn gyfle prin i chi gael eich brand wedi’i weld gan arweinwyr yn y sector gwirfoddol.


