Mae cwcis wedi'u Hanalluogi
Marchnata
Addasu eich dewisiadauCuriad calon gofod3 fydd y farchnad ryngweithiol, gofod y mae cannoedd o weithwyr proffesiynol o’r sector gwirfoddol yn ymweld ag ef. Bydd ein hymwelwyr i gyd yn awyddus i ddysgu mwy am eich gwasanaeth, eich cynnyrch neu eich ymgyrch.
Rydyn ni eisiau sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar gofod3 a bod y digwyddiad nid yn unig yn bodloni eich disgwyliadau, ond yn mynd y tu hwnt iddynt.
Rydym yn chwilio am arddangosfeydd arloesol a fydd yn annog ffyrdd gwahanol o weithio, yn ennyn trafodaeth ac yn ysgogi newid.
Cofrestrwch eich diddordeb i gadw gofod arddangos yn nigwyddiad eleni. Bydd ceisiadau yn cael eu hadolygu a gofodau yn cael eu dyrannu ar ôl y dyddiad cau o 20 Mawrth 2026. Noder: Argymhellwn eich bod yn cadw lle’n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi. Os bydd galw mawr am ofodau, efallai bydd angen i ni gau’r ffenestr ymgeisio’n gynnar.
Byddwn yn ceisio rhoi gwybod i chi a ydych wedi llwyddo cael gofod arddangos yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 30 Mawrth 2026.
Bydd pob arddangoswr yn cael:
- Sylw yn yr arweinlyfr digwyddiadau yn hysbysebu eich mudiad
- enw eich mudiad a dolen gyswllt ar wefan gofod3
- te a choffi Masnach Deg drwy’r dydd
Bydd gan bob stondin y canlynol:
- cynllun cragen
- arwydd gyda’ch enw arno
- un bwrdd
- dwy gadair
- trydan (un soced)
Dod o bellach i ffwrdd?
Noder: Bydd Caerdydd yn brysur tu hwnt yn ystod wythnos gofod3, gyda llawer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y ddinas. I wneud eich taith mor llyfn â phosibl, argymhellwn yn gryf eich bod yn archebu eich llety’n gynnar.
Rydyn ni wedi cael cyfradd arbennig ar nifer cyfyngedig o ystafelloedd yng The Vale Hotel, os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â [email protected]
Ffioedd gofod arddangos
Bartner sector gwirfoddol
2m x 1m £225 + VAT
2m x 2m £270 + VAT
3m x 2m £310 + VAT
Partner ymgysylltiedig
2m x 2m £675 + VAT
3m x 2m £717 + VAT
Eraill
2m x 2m £710 + VAT
3m x 2m £765 + VAT
Cysylltwch â’r tîm digwyddiadau gydag unrhyw gwestiynau: [email protected]
Cyfleoedd noddi
Mae gofod3 yn ddigwyddiad unigryw a fydd yn gweld ymwelwyr o’r sector gwirfoddol yn dod ynghyd i siarad am y materion sydd o bennaf bwys iddynt.
Mae hwn yn gyfle prin i chi gael eich brand wedi’i weld gan arweinwyr yn y sector gwirfoddol.


