Gofod3
Gofod3

Bwcio gofod ar gyfer arddangosfa

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marchnata

Addasu eich dewisiadau

Curiad calon gofod3 fydd y farchnad ryngweithiol, gofod y mae cannoedd o weithwyr proffesiynol o’r sector gwirfoddol yn ymweld ag ef. Bydd ein hymwelwyr i gyd yn awyddus i ddysgu mwy am eich gwasanaeth, eich cynnyrch neu eich ymgyrch.

Rydyn ni eisiau sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar gofod3 a bod y digwyddiad nid yn unig yn bodloni eich disgwyliadau, ond yn mynd y tu hwnt iddynt.

Rydym yn chwilio am arddangosfeydd arloesol a fydd yn annog ffyrdd gwahanol o weithio, yn ennyn trafodaeth ac yn ysgogi newid. Yn lle dyrannu lleoedd ar sail y gyntaf i’r felin, rydym yn chwilio am arddangoswyr y bydd eu cyfraniadau yn helpu i wneud gofod3 mor dda â phosibl i ymwelwyr.

Os hoffech wneud cais am ofod arddangos ar gyfer gofod3, llenwch y ffurflen gais ar-lein a’i dychwelyd atom erbyn 3 Mawrth 2025. (Noder: ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried). Fe wnawn ni eich hysbysu o ganlyniad eich cais yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 17 Mawrth 2025.

Bydd pob arddangoswr yn cael:

  • Sylw yn yr arweinlyfr digwyddiadau yn hysbysebu eich mudiad
  • enw eich mudiad a dolen gyswllt ar wefan gofod3
  • te a choffi Masnach Deg drwy’r dydd

Bydd gan bob stondin y canlynol:

  • cynllun cragen
  • arwydd gyda’ch enw arno
  • un bwrdd
  • dwy gadair
  • trydan (un soced)

Ffioedd gofod arddangos

Sector gwirfoddol

2m x 2m £263 + VAT

3m x 2m £305 + VAT

Sector cyhoeddus

2m x 2m £429 + VAT

3m x 2m £473 + VAT

Sector preifat

3m x 2m £765 + VAT

Cysylltwch â’r tîm digwyddiadau gydag unrhyw gwestiynau: [email protected]

Bwcio eich gofod arddangos

WCVA gofod3 2024
Gofod ar gyfer digwyddiadau yn gofod3

Mae cynnal digwyddiad yn gofod3 yn ffordd gost-effeithiol o gyrraedd cynulleidfa amrywiol.

Rhagor o wybodaeth am bwcio gofod ar gyfer digwyddiad

Cyfleoedd noddi

Mae gofod3 yn ddigwyddiad unigryw a fydd yn gweld ymwelwyr o’r sector gwirfoddol yn dod ynghyd i siarad am y materion sydd o bennaf bwys iddynt.

Mae hwn yn gyfle prin i chi gael eich brand wedi’i weld gan arweinwyr yn y sector gwirfoddol.

Dysgwch fwy am gyfleoedd noddi yn gofod3 2025

Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh