Gofod3
Gofod3

Arwain trawsnewidiad Deallusrwydd Artiffisial y sector gwirfoddol: heriau, cyfleoedd, cyllid a moeseg

Mer 2 Gorff 2025, 11:30am

ProMo Cymru

Ymunwch â ProMo Cymru yn y sesiwn hon lle byddan nhw’n trafod goblygiadau strategol Deallusrwydd Artiffisial ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Byddan nhw’n archwilio sut y gall mudiadau osod eu hunain i oresgyn rhwystrau, defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i wella’u heffaith, alinio â datblygiadau a llywio tirweddau ariannu sy’n cael eu hail-siapio gan gymwysiadau sydd wedi’u cyfoethogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial.

Gan ddefnyddio’u profiad helaeth yn cefnogi trawsnewid digidol, byddan nhw’n eich helpu i gysylltu cysyniadau damcaniaethol â chymhwysiad ymarferol.

P’un a ydych ar ddechrau eich taith o archwilio Deallusrwydd Artiffisial neu ddatblygu strategaeth, bydd y sesiwn hon yn rhoi gwybodaeth ymarferol i chi er mwyn cryfhau’ch mudiad, gan gynnwys fframweithiau moesegol ar gyfer llywodraethu a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn gyfrifol.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

Mudiad
ProMo Cymru
Dyddiad
Mer 2 Gorff 2025, 11:30am
Pwnc
Math o ddigwyddiad
Ystafell

Cofrestru

Mae cwcis wedi'u Hanalluogi

Er mwyn gallu gweld y cynnwys hwn bydd angen i chi alluogi'r cwcis canlynol:

Marketing and statistics

Addasu eich dewisiadau

Datganiad Data

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.

Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.

Gofod3
^
cyWelsh