Ar ôl dadansoddi data pleidleisio hirdymor, bydd nfpResearch yn datgelu sut mae agweddau cyhoeddus a gwleidyddol tuag at elusennau wedi newid dros y degawd diwethaf.
Bydd y sesiwn yn archwilio pedwar maes allweddol sy’n hanfodol i’r sector:
- Ymddiriedaeth a gwelededd – sut mae elusennau Cymru yn cymharu â’r DU, gan gynnwys eu rôl wrth wynebu heriau
- Newid arferion rhoi – sut hoffai pobl Cymru i’w harian gael ei wario
- Y Gymraeg a lleoliaeth – sut gall elusennau Cymru wella eu cyfathrebu â’r cyhoedd
- Ymgysylltu gwleidyddol – sut gall elusennau ymgysylltu’n effeithiol ag ASau a pharatoi ar gyfer 2026.
Bydd y sesiwn hon yn darparu data gwerthfawr a gwybodaeth strategol i elusennau sy’n llywio sector gwirfoddol Cymru sy’n esblygu.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.