Dewch i ganfod buddion yr economi gylchol a sut y gall helpu busnesau Cymreig i dyfu, a gofyn cwestiynau am ein rhaglen economi gylchol a gaiff ei chyllido’n llawn a’i rhedeg ar y cyd rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. Bydd rhaglen y Gymuned Arloesi Twf Glân (CGIC), a gyllidir yn llawn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn cefnogi busnesau’r sector preifat a mudiadau gwirfoddol i ddatblygu galluoedd arloesi ac Economi Gylchol, cynlluniau twf glân a chynlluniau arloesol, o fewn rhwydwaith o bobl o’r un meddylfryd ar hyd a lled De Cymru. Wedi’i chyllido’n llawn gan.
Ymunwch â ni am 2.00pm am sesiwn 20 munud ac amser am gwestiynau.
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Eventbrite fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.