Archive for Exhibitor
ScoutsCymru
Mae ScoutsCymru yn cynrychioli’r mudiad Sgowtio bywiog yng Nghymru. Bob wythnos, mae ein tîm ymroddedig o 4,500 o wirfoddolwyr yn cefnogi dros 14,000 o bobl 4 i 25 oed ledled Cymru, gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer yr ysgol, y coleg, y brifysgol, y cyfweliad ar gyfer swydd, yr araith bwysig, yr her anodd a’r breuddwydion mawr: y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd. Rydym yn gwneud hyn trwy addysg awyr agored, antur, hwyl a chyfeillgarwch.
https://scoutscymru.org.uk/
Disability Wales
Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl (DPOs) sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb pob person anabl. Ein rôl graidd yw mynegi safbwyntiau a blaenoriaethau aelodau i’r llywodraeth gyda’r nod o lywio a dylanwadu ar bolisi.
Rydym yn cymryd rhan weithredol wrth ddylanwadu ar waith y Tasglu Hawliau Anabledd a chefnogi ymgysylltiad aelodau wrth ddatblygu’r Cynllun Gweithredu. Rydym yn darparu gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i aelodau llawn o Sefydliadau Pobl Anabl ac yn cynnal prosiectau sydd â’r bwriad o gynyddu cyfranogiad pobl anabl mewn bywyd cyhoeddus gan gynnwys y Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth.
www.disabilitywales.org/?lang=cy
DTA Wales
Mudiad aelodaeth annibynnol ac nid-er-elw dros Gymru gyfan yw CYD Cymru. Wedi’i sefydlu yn 2003, rydym ni’n cynorthwyo mentrau cymdeithasol, grwpiau a busnesau o dan arweiniad cymunedau sy’n gyrru’r newid sydd ei angen ar eu cymunedau am ddyfodol mwy disglair.
www.dtawales.org.uk
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Public Sector Ombudsman Wales
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn defnyddio’r gwersi a ddysgwyd i wella tegwch, atebolrwydd ac ansawdd gwasanaethau. Rydym yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol i gefnogi’r bobl y mae yn eu gwasanaethu – codi ymwybyddiaeth o’n rôl, darparu adnoddau a hyfforddiant, a galluogi mudiadau i fod yn hyderus wrth gyfeirio unigolion sy’n anfodlon â chorff cyhoeddus. Drwy noddi a chymryd rhan yn gofod3, rydym yn nodi ein hymrwymiad i weithio’n agosach gyda’r trydydd sector. Mae’n rhoi cyfle hanfodol i ni wrando, meithrin partneriaethau a datblygu ffyrdd ymarferol o wella safonau mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a mynediad atynt.
https://www.ombwdsmon.cymru
E-voucher
Mae Evouchers, noddwyr balch gofod3 CGGC, wedi ymrwymo i gefnogi mudiadau i ddosbarthu cronfeydd arian yn ddidrafferth, yn ddiogel ac ar unwaith yn unrhyw le ar unrhyw adeg, er mwyn i chi allu canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf – eich cymuned. Wedi’i greu i gynorthwyo yn ystod y pandemig, mae ein platfform dosbarthu cronfeydd diogel, hyblyg wedi tyfu i ddod yn bartner dibynadwy, gan alluogi mudiadau’r sector cyhoeddus i ddarparu cymorth hanfodol gyda bwyd, dillad, ynni ac angenrheidiau dyddiol eraill. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu atebion cyflym, dibynadwy sy’n ei gwneud hi’n haws i chi ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar eich cymuned. https://www.evouchers.com/
Health Education Improvement Wales (HEIW)- NHS
AaGIC yw corff datblygu’r gweithlu ar gyfer GIG Cymru, sy’n trawsnewid y gweithlu i greu Cymru iachach drwy bartneriaeth, a datblygu gweithlu medrus a chynaliadwy sy’n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth. Rydym yn rheoli cyfleoedd hyfforddi ar gyfer disgyblaethau clinigol, fel meddygaeth a deintyddiaeth, ond hefyd yn cynnig hyfforddiant i’r gweithlu cyfan yn y sectorau gofal cymdeithasol a gwirfoddol. Rydym hefyd yn hwyluso lleoliadau myfyrwyr gydag ystod eang o fudiadau. https://heiw.nhs.wales/workforce/strategic-mental-health-workforce-plan/
Charity Commission for England and Wales / Fundraising Regulator
Y Comisiwn Elusennau yw adran annibynnol, anweinidogol y llywodraeth sy’n cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gyfrifol am y canlynol:
• Cofrestru mudiadau cymwys.
• Sicrhau bod elusennau yn bodloni eu gofynion cyfreithiol.
• Cymryd camau gorfodi pan fo camymarfer neu gamymddwyn.
• Darparu arweiniad i helpu elusennau i weithredu mor effeithiol â phosibl.
• Darparu gwasanaethau ar-lein i elusennau. www.gov.uk/charitycommission
Y Rheoleiddiwr Codi Arian yw’r rheoleiddiwr annibynnol, anstatudol ar gyfer codi arian elusennol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
O godi arian ar y stryd i ddigwyddiadau codi arian ar raddfa fawr, rydym yn rheoleiddio’r holl waith codi arian yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a gynhelir gan sefydliadau elusennol a chodwyr arian trydydd parti.
www.fundraisingregulator.org.uk/