Digwyddiadau Cysylltiedig

Gwella iechyd a lles
Mer 5 Meh 2024, 11:00am
Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl
Rydyn ni am helpu pawb i fyw bywyd iach, mwy egnïol a gwella’u lles. Bydd y sesiwn hon gyda Sefydliad Cymunedol CPD Dinas Caerdydd yn arddangos sut rydyn ni’n defnyddio pêl-droed fel cyfrwng i wella iechyd a lles yn ein cymunedau drwy ymyriadau a phrosiectau wedi’u targedu, gan rannu negeseuon iechyd pwysig a hyrwyddo ymdeimlad o berthyn.
www.cardiffcityfcfoundation.org.uk

Gwella iechyd a lles
Mer 5 Meh 2024, 12:30pm
Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl
Rydyn ni am helpu pawb i fyw bywyd iach, mwy egnïol a gwella’u lles. Bydd y sesiwn hon gyda Sefydliad Cymunedol CPD Dinas Caerdydd yn arddangos sut rydyn ni’n defnyddio pêl-droed fel cyfrwng i wella iechyd a lles yn ein cymunedau drwy ymyriadau a phrosiectau wedi’u targedu, gan rannu negeseuon iechyd pwysig a hyrwyddo ymdeimlad o berthyn.
www.cardiffcityfcfoundation.org.uk

Sefydlu rhwydwaith codi arian
Mer 5 Meh 2024, 4:00pm
Codi arian
Mae sicrhau cyllid cynaliadwy yn her gyson i fudiadau yn y sector gwirfoddol. Dewch i’r sesiwn gefnogol hon, lle gallwch ymuno ag eraill i ddadansoddi’r dasg hynod anodd o godi arian, ac yn benodol, y rôl o dyfu a datblygu rhwydwaith codi arian. Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan arweinydd elusen fechan am sut maen nhw wedi sefydlu rhwydwaith cymorth cyllido a sut mae hwn yn eu helpu i fynd ati i godi arian.
https://wcva.cymru/cy/hafan/

Sesiwn galw heibio Cyflog Byw go iawn – cael eich achrediad a gwneud y gorau ohono
Mer 5 Meh 2024, 2:30pm
Llywodraethu
Ymunwch â’r sesiwn galw heibio hon gyda Cynnal Cymru, partner achredu’r Sefydliad Cyflog Byw, i glywed mwy am sut gallwch chi gefnogi’ch mudiad chi i gael achrediad Cyflog Byw go iawn. Bydd ein tîm yn gallu rhoi cyngor ar faterion technegol, manteision cael achrediad Cyflog Byw go iawn, a sut gall gweithwyr mudiadau sydd eisoes wedi’u hachredu gymryd mwy o ran yr ymgyrch i sicrhau Cyflog Byw go iawn ar draws eu hardal leol neu sector.
Mae Cynnal Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cyflog Byw i gefnogi cyflogwyr gyda’u hachrediad ac i sicrhau’r Cyflog Byw i holl weithwyr Cymru.
www.cyflogbyw.cymru