Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Dechrau eich taith sero net: Camau ymarferol ar gyfer elusennau a mudiadau nid er elw

Mer 2 Gorff 2025, 4:00pm

Ynni
Gall cychwyn ar y llwybr tuag at sero net deimlo’n llethol, ond gall pob mudiad gymryd camau ystyrlon i leihau ei ôl troed carbon. Ymunwch ag Utility Aid i gychwyn ar eich taith gynaliadwyedd. Bydd y sesiwn hon yn rhoi arweiniad ymarferol ar effeithlonrwydd ynni, mesurau arbed costau, a strategaethau syml i ddechrau ar eich taith sero net. Dysgwch sut i gael effaith wirioneddol wrth aros yn gynaliadwy’n ariannol. P’un a ydych newydd ddechrau neu’n awyddus i gyflymu eich cynnydd, bydd y sgwrs hon yn rhoi’r wybodaeth a’r offer i chi weithredu.

Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas a thîm Diogelu CGGC: Cefnogi cyn-droseddwyr

Mer 2 Gorff 2025, 2:30pm

Diogelu
Mae’r sesiwn hon yn arddangos gwaith ar y cyd rhwng tîm diogelu CGGC a’r elusen Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas Cymru, sy’n cynnig cymorth ac arweiniad cyffredinol a phwrpasol i bobl ag euogfarnau. Ei ddiben yw helpu mudiadau i gefnogi pobl ag euogfarnau yn well tuag at wirfoddoli a chyflogaeth, a gall mynychwyr y sesiwn ddisgwyl cael cipolwg ar fideo newydd, dogfen ganllaw ddiwygiedig, yn ogystal â chyfle i ofyn cwestiynau i banel Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas.

Deall y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol

Mer 2 Gorff 2025, 11:00am

Iechyd a gofal cymdeithasol
Iechyd meddwl
Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno gwaith y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol hyd yma, ac yn gwahodd ymgysylltiad gan fudiadau eraill. Gweithdy fydd y sesiwn hon sy’n nodi ei themâu allweddol ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr wneud awgrymiadau a chysylltu â’r rhaglen waith hon.

Cymunedau Cymraeg: sut i ymgysylltu a chyrraedd gwirfoddolwyr newydd

Mer 2 Gorff 2025, 12:30pm

Cymraeg
Gwirfoddoli
Mae’r rhwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru yn cyflwyno mewnwelediad i gymunedau o siaradwyr Cymraeg. Byddwn yn cynorthwyo cyrff sydd ddim yn gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg i gynyddu eu hymwneud gyda’r Gymraeg mewn ffordd ystyrlon. Cewch glywed am grwpiau cymunedol Cymraeg a dysgu am sut i’w cyrraedd.
Gofod3
^
cyWelsh