Digwyddiadau Cysylltiedig

Lleibwyr cyfalafol yn erbyn cymunedau
Mer 5 Meh 2024, 4:00pm
Polisi
Archebwch nawr i chwarae rhan weithredol yn y sesiwn fywiog a diddorol hon, a fydd yn cynnwys panel o chwe unigolyn o fudiadau cymunedol llawr gwlad a’r sector gwirfoddol ehangach a fydd yn asesu modelau economaidd gwahanol, data, asedau, mentrau cymdeithasol a gweithredu gwrthdlodi.
Mae nifer y gynulleidfa wedi’i gadw’n fach yn fwriadol i alluogi trafodaeth ystyrlon a digon o amser i gyfranogwyr ymateb, rhannu eu profiadau a’u gwybodaeth eu hunain, ac i asesu pa mor briodol yw’r model economaidd i’w sefyllfaoedd. Bydd pob cyfraniad yn cael ei nodi a’i rannu, gan gynnwys holiaduron a chardiau addewid.
www.tfcpembrokeshire.org/cy/

Defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol
Mer 5 Meh 2024, 2:30pm
Cyfathrebu
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg (darperir cyfieithu ar y pryd)
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno canllaw newydd ar ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol – pwnc sy’n cael ei godi’n gyson gan sefydliadau yn y sector gwirfoddol. Pwrpas y canllaw yw cynnig arweiniad ac atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin, gan gynnwys enghreifftiau go iawn a phrofiadau eraill. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y canllaw a chynyddu defnydd eich sefydliad o’r Gymraeg mewn ffordd ymarferol.
https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/busnesau-ac-elusennau

Iechyd a lles yng Nghymru – a ydyn ni’n bwysig?
Mer 5 Meh 2024, 11:00am
Iechyd a gofal cymdeithasol
Wedi’i chyflwyno gan Brosiect Iechyd a Gofal CGGC, mae’r sesiwn hon yn seiliedig ar eu papur ymchwil: ‘Pam mae’r trydydd sector yn bwysig i iechyd a lles yng Nghymru’, a gomisiynwyd ar ôl adroddiad Comisiwn Bevan: ‘Gwerth a gwerthoedd y trydydd sector: cydweithio â’r sector statudol i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru’.
Ar ôl crynodeb byr gan awdur yr adroddiad, Richard Newton, bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, yn cadeirio trafodaeth banel gyda Kate Williams, Cymorth Canser Macmillan; Chris Johnes, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau; a Lyndsey Campbell-Williams, Medrwn Môn.
https://wcva.cymru/cy/projects/prosiect-iechyd-a-gofal-cggc/

Arweinwyr Cymdeithasol Cymru – Gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu arweinyddiaeth yng Nghymru
Mer 5 Meh 2024, 12:30pm
Aeweinyddiaeth
Ymunwch â ni i ddweud eich dweud am ddyfodol datblygu arweinyddiaeth ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Dysgwch am y rhaglenni datblygu arweinyddiaeth am ddim sy’n cael eu cynnal ledled Cymru yn 2024 a 2025. Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership ac CGGC, a gyllidir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd y sesiwn yn ystyried:
beth yw arweinyddiaeth dda pan rydych chi’n gweithio yng Nghymru
pam ddylech chi fuddsoddi mewn datblygu arweinyddiaeth ar gyfer eich arweinwyr
sut gallwn ni gefnogi datblygu arweinyddiaeth yng
https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/gwasanaethau/social-leaders-cymru/