Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Profi’r digidol: Deallusrwydd Artiffisial

Mer 5 Meh 2024, 11:00am

Digidol
Cyflwynir drwy gyfrwng y a Saesneg Mae Deallusrwydd Artiffisial ar gynnydd ac yn trawsnewid y dirwedd ddigidol gan effeithio ar sut rydyn ni’n gweithio ac yn darparu gwasanaeth. Fel adnodd sy’n cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer twf, effeithlonrwydd ac arloesi, gall fod yn anodd gwybod sut, neu os dylid, dechrau ei ddefnyddio yn eich gwaith. Yn y sesiwn ymarferol hon byddwch yn cael cyfle i roi cynnig ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial, gan ddod i ddeall yn well beth ydyw, ei wahanol gymwysiadau, ac ystyriaethau moesegol ar gyfer ei ddefnyddio. Drwy weithgareddau ymarferol, byddwch yn cael cyfle i ddefnyddio a hyfforddi modelau Deallusrwydd Artiffisial, ac ystyried sut y gallai gefnogi nodau eich mudiad. Bydd y sesiwn yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, ac yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector.

Profi’r digidol: Offer digidol i gefnogi’ch gwaith

Mer 5 Meh 2024, 12:30pm

Digidol
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg Yn ein hamgylchedd gwaith cyflym a phrysur, gall gwybod pa offer digidol i’w defnyddio fod yn allweddol i arbed amser, arian ac egni. Yn y sesiwn ymarferol hon, cewch gyfle i brofi gwahanol offer digidol i’ch helpu i symleiddio tasgau, rheoli’ch prosiectau a chyflawni’ch nodau. Byddwn yn edrych ar wahanol offer fel Teams, Planner, Padlet, Sway a mwy, gan archwilio sut y gallan nhw ryddhau eich amser a’i gwneud hi ychydig yn haws gweithio’n ddigidol. Bydd y sesiwn yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, ac yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector.
Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh