Gofod3
Gofod3

Digwyddiadau Cysylltiedig

Dinoethi’r sector – wynebu ein heriau presennol a dychmygu dyfodol mwy gwydn

Mer 5 Meh 2024, 11:00am

Aeweinyddiaeth
Polisi
Beth yw’r prif heriau llwyddo neu fethu sy’n wynebu’r sector gwirfoddol? Pa argraff sydd gan bobl o’r sector ac a yw’r argraff honno’n deg? Beth allem ni, neu dylem ni, ei wneud yng Nghymru i fynd i’r afael â’n heriau, newid argraff pobl a chynnig mwy o werth i ddefnyddwyr gwasanaethau, rhoddwyr a chyllidwyr? Dyma’r cwestiynau y bydd ein panel arbenigwyr yn eu trafod wrth edrych ar themâu fel yr argyfwng o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, meithrin gweithlu iach, amrywiol a gwydn ac adeiladu sector sy’n addas i’r dyfodol. Bydd yn cynnwys: Laura Hamilton, Ymgynghorydd Cynnwys a Rheolaeth Gwirfoddoli Ewan Hilton, Prif Weithredwr, Platfform Nicki Needle, Rheolwr Gwasanaethau Integredig Llesiant/Arweinydd Rhwydweithiau Lles Integredig, Cyngor Sir Fynwy Malcolm John, Sefydlwr, Action for Trustee Radial Diversity Rachel Marshall, Rheolwr Cymru, Lloyds Bank Foundation Menai Owen-Jones, Prif Weithredwr, LATCH Elusen Canser Plant Cymru Bydd yn cael ei gadeirio gan: Betsan Powys, Newyddiadurwr

Sgwrs rhwng comisiynwyr: llunio’r sector gwirfoddol yng Nghymru

Mer 5 Meh 2024, 2:30pm

Aeweinyddiaeth
Polisi
Y Gymraeg
Yn aml, mae ein comisiynwyr yng Nghymru yn chwarae rhan ddynamig mewn tynnu sylw at y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau. Mae llais pob un ohonynt yn gyrru’r sgyrsiau hyn yn eu blaen, boed hynny drwy waith craffu, syniadau arloesol neu ddatrysiadau ymarferol. Mae hwn yn ddigwyddiad prin ac arbennig a fydd yn dod â Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Heléna Herklots CBE, y Comisiynydd Pobl Hŷn, Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg ac Sara Jermin, Dirprwy Gomisiynydd, Comisiynydd Plant Cymru, ynghyd mewn sgwrs, gan gynnig cyfle i fynychwyr gofod3 ofyn cwestiynau am eu safbwyntiau a’u blaenoriaethau unigryw nhw ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Peidiwch â cholli’r E2digwyddiad tyngedfennol hwn a fydd yn deffro’ch meddwl ac o bosibl yn rhoi’r cyfle i chi ymhél yn uniongyrchol â’r arweinyddion dylanwadol hyn.

Troi’r dudalen gyda Dr Helen Stephenson CBE: ei mewnwelediadau a’i gweledigaeth

Mer 5 Meh 2024, 4:00pm

Llywodraethu
Polisi
Dr Helen Stephenson CBE yw’r Prif Weithredwr sydd wedi bod gyda’r Comisiwn Elusennau hiraf. Mae Dr Stephenson, sydd wedi bod wrth y llyw am dros saith blynedd, wedi llywio drwy gymhlethdodau’r sector gwirfoddol mewn cyfnodau digyffelyb a heriol, gan gynnwys pandemig COVID-19. Wrth iddi baratoi i drosglwyddo’r awenau yn ddiweddarach yr haf hwn, bydd Dr Stephenson yn rhannu ei mewnwelediadau, ei myfyrdodau a’i dyheadau am ddyfodol y Comisiwn a’r dirwedd elusennol ehangach. Dyma eich cyfle i glywed gan arweinydd sydd wedi gadael nod parhaol ar y sector gwirfoddol gyda’i gwasanaeth ymroddgar. Bydd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr newydd CGGC yn ymuno â Helen am sgwrs ac i rannu myfyrdodau o’r diwrnod.
Gofod3
Gofod3
^
cyWelsh