Mae’r sesiwn hon, a gynhelir ar y cyd rhwng Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), yn archwilio dull seiliedig ar le a sut y gall cydweithio traws-sectorol gyflawni ar lesiant pan fo’r sector gwirfoddol yn bartner cyfartal wrth y bwrdd.
Wrth glywed safbwyntiau traws-sectorol llawr gwlad yn Sir Benfro, bydd y drafodaeth yn mynd i’r afael â chwestiynau allweddol, gan gynnwys:
- Sut y gellir meithrin gwell cydweithio (gan gynnwys gyda’r sector preifat) i wella cynaliadwyedd hirdymor ar gyfer gweithio mewn partneriaeth?
- Sut y gellid gwella strwythurau partneriaeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant a lleihau rhwystrau rhag cydweithio effeithiol?
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma

theatr gofod3
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.