Bydd y sesiwn hon yn arddangos effaith y Cynllun Seibiant Byr hyd yma drwy rannu profiadau gofalwyr di-dâl sydd wedi manteisio ar y cynllun.
Bydd cyfle i glywed gan banel o fudiadau yn y sector gwirfoddol sy’n darparu seibiannau byr o dan Grant Amser yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.
Manteisiwch ar y cyfle i ddysgu gan yr elusennau sy’n darparu seibiannau i ofalwyr wrth i ni edrych ar ddyfodol seibiannau byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma
Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Rheolydd Data, wedi’i gofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fyddwn ond yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i weinyddu’r cwrs hyfforddi/gweminar hwn a darparu’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym.
Yn CGGC rydym yn cadw’ch manylion cyswllt yn ein cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) ac yn defnyddio Luma fel ein system archebu. Gweler hysbysiad preifatrwydd CGGC i gael gwybod sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon. Gweler hysbysiad preifatrwydd Luma i gael gwybod sut y maent yn defnyddio’ch gwybodaeth.